Holi Alan Thomas am neuadd Llanarth

Pwt o hanes lleol

Nerys Jones
gan Nerys Jones

l

Gan fo lansiad y wefan fro newydd Cwilt360 yn dechrau yn neuadd Llanarth dydd Sadwrn, 22 Ebrill, beth am gael ychydig o hanes y neuadd bentre yma. Dyma fi’n holi Alan Thomas, Llwynderw, Llanarth sy’ wedi bod yn byw yn Llanarth gydol ei oes, ac sy’ wedi ymchwilio i hanes y neuadd.

Pryd cafodd neuadd bentre Llanarth ei chodi a chan bwy?

Rhoddwyd darn o dir gan Mr J T Lewis, Gwynfryn ar gyfer adeiladu man cyfarfod i bentrefwyr Llanarth ac i gofio’r ardalwyr a fu farw yn y rhyfel mawr. Bu cynllunio ac adeiladu am tua 12 mis – pobl leol yn codi arian ac yn helpu gyda’r gwaith adeiladu. Ar 28 Rhagfyr 1920, fe agorwyd Neuadd Bentref Llanarth yn swyddogol.

Dechreuwyd gweithgareddau’r dydd gan blant yr ysgol ac wedyn gwasanaeth o dan ofal Ficer Llanarth, y Parch J D Lewis. Dadorchuddiwyd y tabled coffa gan Mr Prydderch, gweinidog Pencae, a chafwyd araith deimladwy iawn ganddo. Diolchodd hefyd i Mr R E Bevan y prifathro, am ei waith fel ysgrifennydd y Pwyllgor Datblygu ac i Gapten Davies, Llanina am oruchwylio’r adeiladu. Nes ymlaen yn y prynhawn fe gafwyd tȇ yn ysgol y Cyngor, a chyda’r nos cyngerdd o dan arweiniad yr Henadur J M Howell, Aberaeron

Pwy oedd yn defnyddio’r neuadd yn y blynyddoedd cyntaf?

Cynhaliwyd sawl digwyddiad yn syth ym mis Ionawr. Cafodd Sefydliad y Merched ei chyfarfod blynyddol, rhoddwyd araith ar gerddoriaeth gan Dr Vaughan Thomas, a chynhaliodd “Cymdeithas Gwella Cydfuddiano” y pentref ddarlith ar “Prydlondeb”. Ym mis Ebrill cynhaliwyd Eisteddfod y pentref.

Bu yna “youth Club” prysur tua 60 mlynedd yn ôl, yn cwrdd pob nos Wener. Yn ddiweddarach, tua 45 mlynedd yn ôl, dechreuwyd Ysgol Feithrin yn y neuadd, gyda Mrs Enid Jones yn arweinydd cyntaf.

Oes yna unrhyw bobol enwog wedi troedio ar y llwyfan yn ystod y blynydde?

Nifer o gyngherddau wedi cymryd lle, yn cynnwys artistiaid fel Dafydd Iwan, Hogiau’r Wyddfa, Tony ac Aloma a Meic Stevens. Byddai dawnsfeydd yn boblogaidd yn y neuadd flynyddoedd yn ôl.

Wedi clywed bod clwb snwcer llewyrchus mewn rhan o’r neuadd. Beth yw hanes hwnnw?

Nid oes cof pryd y daeth y fordydd i’r neuadd. Credir bod un wedi dod o Gwynfryn a’r llall o Lon, sef Tegfan yn awr. Biliards oedd y gêm boblogaidd ond tua dechrau’r 60au daeth snwcer yn fwy amlwg. Tua dechrau’r ’70au cychwynnwyd cynghrair yn ne’r sir ac roedd dau dîm o Lanarth yn cystadlu, gyda chwech ym mhob tîm. Erbyn heddiw mae yna ddau dîm o hyd, ond pedwar sydd ym mhob tîm.

Ar wahân i snwcer, pwy sy’n defnyddio’r neuadd y dyddie yma?

Am sawl rheswm, nid yw’r neuadd mor brysur heddiw fel lle cymunedol. Er hynny, mae sawl mudiad yn cwrdd yn weddol gyson ac mae’r Eisteddfod yn dal i gael ei gynnal ynddi. Mae pwyllgor y neuadd yn trefnu nosweithiau o adloniant, sef cyngerdd, Bingo a hyd yn ddiweddar gyrfa chwist. Mae yna fudiadau allanol hefyd yn cwrdd o bryd i’w gilydd. Esiampl o hyn yw lansiad Cwilt360 ar ddydd Sadwrn, 22 Ebrill 2023.

Eisteddfod Capel y Fadfa

13:30, 4 Mai (Oedolion £4 plant Dan 16 oed£1)

Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch

11:30, 18 Mai (£2.00 i'r eisteddfod leol, £3.00 gweddill y dydd Plant oed cynradd am ddim)

Cylchlythyr