Llwyddiant yn y babell Cogurdd!

Llongyfarchiadau Elen Vobe am gipio’r wobr gyntaf!

Manon Wright
gan Manon Wright
CAD3D14D-F5CC-4EA9-83A1

Elen gyda’r tlws.

089C7521-8E3D-41AD-B752

Elen ar ôl y gystadleuaeth

597B67C8-D87D-454F-B953

Elen wedi gosod y frechdan yn daclus.

3A2E3E8F-4A42-4B9A-980B

Elen wrth ei gwaith a chyfweliad teledu yn digwydd tu ôl iddi.

E57C274C-239B-4241-B8F5

Elen cyn y gystadleuaeth.

5456700F-27A0-42CB-99C1

Dyma Elen gyda’r beiriad a’r disgyblion ddaeth yn 2il a 3ydd

Daeth llwyddiant mawr i nifer o blant yr ardal yn Eisteddfod yr Urdd 2023 yn Llanymddyfri. Elen Vobe a ddaeth i’r brîg ar ddiwedd y gystadleuaeth cogurdd i flynyddoedd 4, 5 a 6. Roedd 19 o blant led led Cymru yn cystadlu ac felly roedd yn gamp a hanner i Elen gipio’r wobr gyntaf.

Y dasg oedd i greu ‘Brechdan fendigedig’ a llwyddodd Elen i greu brechdan arbennig coch, gwyn a gwyrdd gan ddefnyddio cyw iâr, mozzarella, pesto a tomato. Aeth ati i goginio’r cyw iâr a chreu pesto ei hun. Dangosodd sgiliau cyllell diogel a gweithiodd yn hyderus yn y gegin gan ddefnyddio amryw o declynnau trydanol. Roedd y beirniad yn hoff iawn o’r hyder a ddangosodd Elen yn y gegin- arbennig!

Roedd y cefnogwyr yn ddigon ffodus i gael blas o’r frechdan- roedd yn archwaethus a deniadol!

Llongyfarchiadau mawr i Elen am ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth a oedd o safon uchel iawn. Dal ati i’r dyfodol!