Ymweliad athletwraig proffesiynol ag Ysgol Llanarth!

Olympiad Gaeaf Beijing, Adele Nicoll yn ymweld â disgyblion Ysgol Llanarth.

Manon Wright
gan Manon Wright
adelle-Nicoll-a-bl-23456

Adele Nicoll gyda rhai o ddisgyblion yr ysgol.

Adelle-Nicoll

Adele yn cyflwyno gwybodaeth i’r disgyblion.

Adele-Bobsleigh

Cyflwyno gwybodaeth am y tîm bobsleigh.

Adele-circuit

Cynhaliodd Ysgol Llanarth weithdy ysbrydoledig gyda ‘Chwaraeon i Bencampwyr’ (Sports for Champions) yn ddiweddar. Buom yn ffodus i groesawu Olympiad Gaeaf Beijing sef Adele Nicoll i’n hysgol.

Cafodd y disgyblion brynhawn buddiol iawn yn dysgu mwy am wahanol gampau olympaidd. Ysbrydolodd Adele y disgyblion wrth drafod ei bywyd fel athletwraig gan nodi sut mae’n ymarfer. Cafwyd sesiwn holi ac ateb diddorol tu hwnt a dysgwyd llawer am ei thaith i fod yn athletwraig broffesiynol. Cafwyd cyfle i ddysgu mwy am ei chyfraniad tuag at dîm ‘bobsleigh’ merched a sut mae’n hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth ‘shot put’.

Cafodd y disgyblion gyfle i ymuno mewn cylched ffitrwydd noddedig dan arweiniad Adele a llwyddodd i addysgu, galluogi a grymuso’r disgyblion a’u hysbrydoli i fod yn bencampwyr y dyfodol. Diolch i bawb a noddodd y disgyblion.

Llwyddodd yr ymweliad i annog amrywiaeth a chodi dyheadau disgyblion drwy chwaraeon. Mae chwaraeon yn ffordd dda o gefnogi iechyd meddwl a chorfforol y disgyblion, a chafwyd prynhawn bendigedig yng nghwmni’r athletwraig.