Ar Ras yn Rhydlydan

Rasys Harnais Talgarreg

gan Robyn Tomos

Rasys Talgarreg Llun: Graham Rees

Mae’r trac hanner milltir wedi’i rholio a’r pyst a’r rhaffau yn eu lle, siacedi hi-viz y stiwardiaid wedi’u prynu a’r maes parcio wedi’i drefnu. Mae’r arwyddion sy’n cyfeirio pawb at Rasys Talgarreg ar Fferm Rhydlydan wedi’u gosod. Ar ôl blwyddyn o drafod mae trefniadau’r pwyllgor bach yn dod i fwcwl o’r diwedd. Diolch i ymdrechion y chwe gwirfoddolwr a’u cynorthwywyr mae dydd Sadwrn, 11 Mehefin yn ddiwrnod mawr yng nghalendr Talgarreg. Mae hefyd yn ddigwyddiad mawr yng nghalendr rasio harnais Ceredigion, Cymru a thu hwnt.

Yn ôl y disgwyl bydd ceffylau yn dod o bob cwr o Gymru, y Gororau a Chanolbarth Lloegr. Mae dros 60 wedi cofrestru ar gyfer y naw ras. Llais y profiadol Darren Owen fydd i’w glywed ar y system sain yn sylwebu ar bob ras. Ac unwaith eto mae gwobrau hael i’w hennill – yn enwedig 1,000 gini’r ffeinal fawr (£1050 i’r rheiny sydd ddim yn cofio ginis). A bydd y bwcis wrth law hefyd i’r sawl sydd eisiau mentro’i lwc.

“Mae noddwyr hael wedi mynd yn ddwfn i’w pocedi,” meddai’r trysorydd Hefin Evans gan ddiolch i gefnogwyr y rasys. “Dim ond un digwyddiad oedd i fod,” meddai wedyn ynglŷn â sefydlu’r rasys presennol yn 1991. “Doedd dim rasys yn Nhregaron y flwyddyn honno felly daeth criw at ei gilydd i drefnu rasys yn Nhalgarreg.”

32 blwyddyn yn ddiweddarach ac oni bai am gyfnod clo Covid-19 mae’r rasys wedi’u cynnal yn ddi-dor. Er, mae Hefin yn cofio’r rasys ceffylau a ddigwyddai ar Fanc Siôn Cwilt ym mis Awst slawer dydd. Daeth y rheiny i ben yn 1963. “Cynnal rasys safonol yng Ngheredigion yw’r bwriad,” meddai, “ac mae cadw’r traddodiad yn fyw yn beth mawr.”

Rasys Talgarreg, Fferm Rhydlydan, dydd Sadwrn, 11 Mehefin, 1.30pm

Mynediad: £10 ac am ddim i’r rheiny dan 16 oed

Eisteddfod Capel y Fadfa

13:30, 4 Mai (Oedolion £4 plant Dan 16 oed£1)

Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch

11:30, 18 Mai (£2.00 i'r eisteddfod leol, £3.00 gweddill y dydd Plant oed cynradd am ddim)

Cylchlythyr