Roedd Caffi’r Emlyn, Tan-y-groes, yn llawn hyd yr ymylon ar nos Sadwrn, 7 Medi, ar gyfer noson trafod cyfansoddiadau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Os mai Sioe Llandysul sy’n arwyddo diwedd tymor i’r byd amaethyddol, noson trafod y cyfansoddiadau a drefnir gan Gymdeithas Ceredigion yw pentalar selogion y ‘pethe’.
Llywyddwyd y noson gan y Prifardd Tudur Dylan a braint fawr i’r ystafell orlawn oedd medru croesawu enillwyr y tair prif gystadleuaeth i Gaffi’r Emlyn – Gwynfor Dafydd ( Y Goron), Eurgain Haf ( Medal Ryddiaith) a Carwyn Eckley (Y Gadair). Ymhlith y gynulleidfa werthfawrogol roedd nifer helaeth o brifeirdd a phrif-lenorion blaenorol, ynghyd â’r Archdderwydd Mererid a Chadeirydd pwyllgor Gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, Helen Prosser (mam Gwynfor Dafydd).
Cafwyd cyflwyniadau difyr ac ysgogol o gampweithiau’r tri gan Ceri Wyn, Gillian Jones a Mererid Hopwood. A chyflwynodd y Prifardd Idris Reynolds gerddi cyfarch i’r tri ar ran y Gymdeithas. Cafwyd sylwadau diddorol gan nifer o blith y gynulleidfa, gan gynnwys y prifeirdd Emyr Lewis ac Aneirin Karadog.
Diddorol oedd yr hanes a gafwyd gan Tudur Dylan am sefydlu’r noson hon rhai degawdau yn ôl. Roedd hi’n arferiad gan Fois y Cilie i grynhoi i drafod y cyfansoddiadau blynyddol yn rwm ffrynt y Cilie, gan wahodd rhai cymdogion atyn nhw. Pan aeth yr ystafell yn rhy fach symudwyd i gegin Neuadd Pontgarreg, nes i honno fynd yn rhy fach. Ar ôl defnyddio’r Neuadd am rhai blynyddoedd symudwyd yr achlysur i Gaffi’r Emlyn ac yno mae’n cael ei chynnal o hyd. A hir y parhaed hynny.
Mae Cymdeithas Ceredigion yn cyfarfod ar nos Wener gyntaf y mis, gan gynnig rhaglen ddifyr o sgyrsiau a gweithgareddau diwylliannol. Mae croeso i bawb.