Llwyddiant CFfI Caerwedros yn yr Eisteddfod Sirol

Eisteddfod CFfI Sir Ceredigion

gan Jano Wyn Evans

Dros gyfnod o ddau benwythnos, bu Clwb Ffermwyr Ifanc Caerwedros yn cystadlu yn frwd ym Mhontrhydfendigaid.  Fe wnaeth y cystadlu yn yr Eisteddfod Sirol flynyddol ddechrau ar nos Wener yr 11eg o Hydref.  Roedd ein clwb yn cystadlu mewn 4 cystadleuaeth.  Daeth 2 wobr yn ôl i Gaerwedros sef 1af i Jano Evans yn y gystadleuaeth Darn heb atalnodi a 1af i’r grŵp Codi Hwyl (Cheerleading).  Yn ogystal, fe wnaeth Eos Dafydd ac Efan Evans gystadlu yn wych yng nghystadleuaeth yr adrodd digri ac fe wnaeth criw y meim yn rhagorol yn eu cystadleuaeth.

Yn dilyn sawl ymarfer, aeth y clwb ati i gystadlu eto ar ddydd Sadwrn y 19eg o Hydref.  Llwyddodd Isaac Rees i ennill y drydedd wobr yn y Llefaru unigol dan 13 oed.  Unigolyn arall a wnaeth gystadlu oedd Elin Davies yn yr Unawd sioe gerdd, fe wnaeth y ddau yn wych!  Tro’r ensemble oedd nesaf ac fe wnaethom lwyddo i ennill y wobr gyntaf yn canu’r gân enwog Tŷ ar y Mynydd.  Yn ogystal, fe wnaeth Efan, Mali ac Eos yn wych yng nghystadleuaeth y sgetsh.  I gloi cystadlu’r llwyfan fe lwyddodd Mali, Jano ac Efan i ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth y deuawd/triawd doniol – cystadleuaeth gref!

Tu hwnt i gystadlaethau’r llwyfan, bu’r aelodau yn brysur yn yr adran gwaith cartref.  Mi lwyddodd Heledd Evans i ennill y drydedd wobr yng nghystadleuaeth y Rhyddiaith, daeth Alaw Silvestri Jones yn ail yn y Cywaith clwb ac fe enillodd Cerys Silvestri Jones y gystadleuaeth Celf a Chrefft.

Yn dilyn y llwyddiant yma, golygai hyn fod y clwb wedi cyrraedd y 7fed safle ar ddiwedd y cystadlu sydd yn hollol wych!  Hoffwn longyfarch pob un aelod ac arweinydd ar eu llwyddiant.  Mae’r diolch mwyaf yn mynd i’r aelodau am eu gwaith caled ac i’r holl hyfforddwyr am roi eu hamser.  Mae’r clwb yn ffodus iawn.

Cynhaliwyd noson goffi a phigion yn Neuadd Caerwedros yn dilyn yr eisteddfod wrth i’r aelodau gael cyfle i ddangos eu talent i’r gymuned leol. Codwyd £560 i goffrau’r clwb sydd yn galluogi’r aelodau i gael cyfleoedd di ben draw trwy’r mudiad.

Ar ddydd Sadwrn yr 2ail o Dachwedd, mi fydd Jano Evans yn y Darn heb atalnodi a’r Ensemble yn cystadlu yn Eisteddfod CFfI Cymru.  Yn ogystal bydd darn o waith Celf a chrefft Cerys Silvestri Jones yn cystadlu yn Eisteddfod Cymru.  Pob lwc yn y byd i bawb.