calendr360

Yfory 10 Mehefin 2023

Bore Coffi

10:00–12:00
Ar ôl llwyddiant ein bore goffi diwethaf fe fyddwn yn cwrdd eto rhwng 10-12 ar fore dydd Sadwrn, 10fed o Fehefin. Cyfle i gymdeithasu gyda ffrindiau a cymdogion dros paned a rhôl bacwn! 

Dechrau Canu Dechrau Canmol

18:00 (Am ddim)
Fel rhan o ddiwrnod dathlu Cranogwen, Cymanfa yng Nghapel y Wig fydd yn cael ei recordio ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol.  Dewch i ganu ac i foli.

Dydd Sadwrn 1 Gorffennaf 2023

Gŵyl Talgarreg

14:00
Diwrnod hwŷl i’r gymunedCarnifal unigolion (dim thema) MabolgampauRas hirRownderi hŷn ac iau Bwyd a Lluniaeth ar gael yn ystod y dydd. 

Dydd Llun 17 Gorffennaf 2023

Cyfarfod Blynyddol C.Ff.I Caerwedros

19:30–21:30
AGM C.Ff.I Caerwedros 2023-2024