Cafodd disgyblion Bl.5 a 6 Ysgol Gynradd Talgarreg gyfle i fynd i aros am dri diwrnod yng Ngwersyll yr Urdd Glan-llyn.
Gadawon ni bore dydd Mercher, Ebrill y 19eg yn llawn cyffro ac yn barod am antur!
Ar ôl cyrraedd a mwynhau cinio buon ni’n canŵio ac adeiladu rafft. Dysgon ni sut i wneud cwlwm y neidr ac fe hwylion ni ar wyneb disglair Llyn Tegid ar y rafft. Roedd yn lot o sbort a sbri!
Gwnaethon ni lawer o weithgareddau dydd Iau, sef y wal ddringo, nofio, cwrs rhaffau a bowlio 10. Yna cawson ni wledd pan ddaeth dyn aton ni i arddangos tylluanod. Roeddwn i’n lwcus iawn i gael cyfle i ddal tylluan! Ar ôl swper cawson ni hwyl yn dawnsio yn y disgo.
Dydd Gwener gwnaethon ni gael tro ar gyfeiriannu a saethyddiaeth. Ar ôl cinio, roedd yn amser ffarwelio a mynd am adre.
Cawson ni dri diwrnod anturus a llawn hwyl.
Diolch i staff Glan-llyn a diolch yn arbennig i Miss Sandra am fynd a ni a gofalu amdanon ni.