Blas o’r Gymraeg

Criw da wedi dod ynghyd yng Nghaerwedros i gael blas ar y Gymraeg.

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan
20230420_1003511

Criw Blas ar y Gymraeg Neuadd Caerwedros.

“Croeso… Bore da… Prynhawn da… Sut ‘ych chi?” Dyna’r cyfarchion glywyd yn Neuadd Caerwedros ar fore Iau, 20 Ebrill, wrth i 15 o’r trigolion lleol ddod ynghyd i gael eu blas cyntaf o’r Gymraeg.

Braf oedd gweld 15 wedi ymateb i’r cyfle a ddarparwyd gan Bwyllgor Neuadd Caerwedros ar y cyd â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol. Bydd 5 sesiwn yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim er mwyn i bobl leol gael rhoi cynnig ar ddysgu rhywfaint o Gymraeg sylfaenol.

Parch Beth Davies, ficer Llanarth a Gwenlli, yw’r tiwtor a chafwyd hwyl fawr yn ei chwmni. Yn dilyn y sesiynau dechreuol bydd cyfle i’r siaradwyr newydd (dysgwyr) ddilyn cyrsiau eraill y Ganolfan neu sefydlu grŵp sgwrsio yn y Neuadd.

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i ymuno. Dewch draw i Neuadd Caerwedros ar fore Iau rhwng 10yb-12yp tan 18 Mai. “Pob hwyl!”

Cyngerdd Ysgol Gerdd Ceredigion

19:00, 15 Tachwedd (£10 yr oedolyn (Plant am ddim))

Noson Caws, Gwin ac Ocsiwn

19:30, 29 Tachwedd (£5 y tocyn, ar gael o'r Cylch Meithrin neu gallwch dalu wrth y drws)

Cylchlythyr