Caerwedros yn lansio Cwilt360

Neuadd lawn yng Nghaerwedros i lansio Cwilt360

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan

Daeth llond neuadd ynghyd i lansio Cwilt360 yn Neuadd Caerwedros. Cafwyd cawl blasus gan MyW y Bryniau, cân gan ddisgyblion Ysgol Bro Siôn Cwilt a chyflwyniad i’r wefan newydd gan Lowri Fron o Bro360. Pob llwyddiant i’r gwasanaeth cyffrous hwn.