Aelodau Clwb Hen Beiriannau Talgarreg yn cefnogi Sioe’r Cardis yn Llanelwedd

Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad Mai 2024

gan Morgan Reeves

Aeth aelodau Clwb Hen Beiriannau Talgarreg, sef Emyr, Rhidian a Cadi Evans, Heulyn Davies, Cenfil Reeves, Lloyd Jones, Iwan Evans, Wmffre Davies a Calvin Griffiths, i’r Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar y 18fed a’r 19eg o Fai.

Roedd yn wledd o arddangosfa er mwyn cefnogi ymgyrch Sioe’r Cardis, gan taw Ceredigion yw sir nawdd y Sioe Frenhinol eleni.

Diolch i Mrs Brenda Jenkins, gwraig Llywydd Sioe’r Cardis, am alw heibio!