Bu aelodau Capel Nanternis yn brysur ym mis Mawrth yn casglu at wahanol elusennau.
Gwahoddwyd trigolion yr ardal i ddod â chyfraniadau i’r Neuadd yng Nghaerwedros ar Sadwrn 11 Mawrth neu i’r Capel ar y Sul trannoeth. Casglwyd pentwr mawr o ddillad sydd wedi eu cyflwyno i elusen Coda Ni ym Mhencader. Mae Coda Ni yn eu gwerthu er mwyn ariannu prosiectau lleol a chynnal prosiect addysg mewn ardal wledig o Burkina Faso.
Casglwyd stampiau er budd Cymdeithas y Deillion (RNIB) a chyflwynwyd pentwr o hen sbectolau i’w hailddefnyddio mewn gwledydd sy’n datblygu trwy law un o optegwyr Caerfyrddin. Derbyniwyd rhoddion ariannol hefyd ar gyfer eu trosglwyddo i gronfa daeargryn Twrci-Syria Cymorth Cristnogol.
Mae croeso mawr i unrhyw ymuno â ni i addoli yn Nanternis ar ail Sul y mis ac i ymuno yn ein hamrywiol weithgareddau. Mae aelodau eglwys Nanternis bob amser yn ceisio rhoi eu ffydd ar waith yn y gymuned.