Enid Jones a’i Medal Gee

Dathlu ym Mhen-cae wrth i Enid Jones dderbyn clod a gwerthfawrogiad

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan

Llongyfarchiadau mawr i Enid Jones, Llanarth, ar dderbyn Medal Gee yn ddiweddar.

Daeth cynulleidfa dda ynghyd yng Nghapel Pen-cae ar Ddydd Sul 20 Hydref i wrando ar neges y pregethwr gwadd, Dafydd Iwan. Pleser mawr i bawb yno oedd gweld Enid yn derbyn y fedal gan Parch Aled Davies ar ran y Cyngor Ysgolion Sul yng nghwmni Dafydd.

Cyflwynir Medalau Gee gan Gyngor Ysgolion Sul Cymru i unigolion sydd wedi bod yn ffyddlon i’r Ysgol Sul gydol eu hoes neu sydd wedi rhoi gwasanaeth nodedig i’r Ysgol Sul. Bu Enid ynghlwm â’r Ysgol Sul am gyfnod o hanner canrif a mwy ac mae cenedlaethau o blant ac ieuenctid Pen-cae yn ei dyled.

Roedd pawb yn gytun bod yr anrhydedd yn un haeddiannol iawn. Diolch am eich holl ymdrechionb. Da iawn wir, Enid. Neu a ddylen ni ddweud ‘Gee whizz’! Pob hwyl i’r dyfodol gydag Ysgol Sul Pen-cae.

Cyngerdd Ysgol Gerdd Ceredigion

19:00, 15 Tachwedd (£10 yr oedolyn (Plant am ddim))

Noson Caws, Gwin ac Ocsiwn

19:30, 29 Tachwedd (£5 y tocyn, ar gael o'r Cylch Meithrin neu gallwch dalu wrth y drws)

Cylchlythyr

Dweud eich dweud