Rydym ar drothwy gwyl genedlaethol i’r ifanc – Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru.
Ydych chi wedi meddwl sut dechreuodd y Mudiad pwysig yma?
Wel, tra’n lletya dros nos yn y Pandy ym mhentre Llanarth yn nechrau 1922, cafodd Syr Ifan ab Owen Edwards syniad a newidiodd cwrs hanes Cymru.
Roedd yn olygydd Cymru’r Plant ar y pryd, a’r noson honno yn y Pandy, ysgrifennodd lythyr at bob un o ddarllenwyr ifanc y cylchgrawn.
Dyma bwt o’r llythyr ag ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 1922 –
“Beth a wnawn ni, blant Cymru, sydd yn caru Cymru fach, ein gwlad ein hunain? Rhaid i ni wneud rhywbeth am mai ni yw gobaith ein gwlad. Beth pe baem yn uno gyda’n gilydd i benderfynu y gwnawn bopeth a all helpu ein cenedl? Fe sefydlwn Urdd newydd” …………………… ac mae’r gweddill yn hanes!