Rhaid ymhyfrydu yn ein pobl ifanc a’u hyfforddwyr yn dilyn cymaint o lwyddiant ar ddechrau wythnos yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gâr. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw’i gyd. Dyma rai canlyniadau: –
Unawd Cerdd Dant Bl2 ac Iau Cyntaf Neli Evans, Henbant (hyfforddwyd gan Catrin Evans, Henbant a Helen Williams, Rhydyfelin)
Parti Unsain i Ysgolion 50 a llai mewn nifer Cyntaf Ysgol Talgarreg (hyfforddwyd gan Bethan Jenkins, Pennaeth, a Catrin Evans, Henbant)
Cân Actol (Ysgolion llai na 100 o blant) Trydydd Ysgol Talgarreg (hyfforddwyd gan Bethan Jenkins, Pennaeth, a Catrin Evans, Henbant)
Unawd Piano Bl. 7, 8 a 9 Cyntaf Claire Lloyd, Brynwerydd (hyfforddwyd gan Jenny Frost)
Unawd Telyn Bl. 7, 8 a 9 Cyntaf Claire Lloyd, Brynwerydd (hyfforddwyd gan Meinir Heulyn, Synod Parc)
Y Fedal Ddrama Cyntaf Elain Roberts, Pentre’r Bryn (gweler newyddion blaenorol)
Da iawn hefyd i’r canlynol fu’n perfformio ar y llwyfan cenedlaethol:-
Efan Evans, Henbant (Cerdd Dant Bl 5 a 6) – hyfforddwyd gan Catrin Evans, Henbant a Helen Williams, Rhydyfelin
Martha Silvestri Jones (Llefaru 5 a 6 ) – hyfforddwyd gan Nerys Jones, Fron, Llanarth
Parti Llefaru Adran Bentre’ Talgarreg – hyfforddwyd gan Nerys Jones, Fron, Llanarth gyda chymorth Teleri Morris-Thomas
Llongyfarchiadau i’r canlynol am eu llwyddiant oddi ar y llwyfan:
Alys Evans, Dyffryn, ar ddod yn gyntaf am ei darn o farddoniaeth (Bl 8)
Elen Vobe, Llanarth, ar ddod yn gyntaf yng nghystadleuaeth Cogurdd (Bl 4, 5 a 6)
Efan Evans, Henbant, ar ddod yn drydydd yn y gystadleuaeth Dylunio Crys T (Bl 5 a 6)
Ar ddiwedd yr wythnos o gystadlu, Ceredigion oedd ar frig y tabl gyda chyfanswm o 152 o fedalau.