Llwyddiant ar y cae criced!

Ysgolion Cylch Aeron yn cymryd rhan yn yr ŵyl griced yn Aberaeron.

Manon Wright
gan Manon Wright
C2315339-4E8D-4CB6-A64D

Daeth y tîm i’r ail safle.

3DAB3C66-AA8A-4D3B-94A8

Plant dosbarth Gudo

5150C65C-94CA-49BC-A9D2

Disgyblion ysgol Llanarth a fu’n cystadlu.

8FA802B3-E7EE-408F-86EE

Ffrindiau!

A22D03C9-8B1A-43BF-8B24

Yr ail dîm.

F91601A9-CAFC-4EF4-BC6E

Disgyblion yr ysgolion cynradd.

Heddiw, cynhaliwyd Gŵyl Griced i ddisgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 ysgolion Clwstwr Aeron ar gaeau Glan y Môr Aberaeron.

Cafwyd diwrnod bendigedig o gystadlu a chyfle gwych i wneud ffrindiau newydd. Yn cystadlu heddiw roedd yr ysgolion canlynol:- Llanarth, Aberaeron, Bro Siôn Cwilt, Llan-non, Ciliau Parc a Cheinewydd. Bu dau dîm yn cymryd rhan o Ysgol Llanarth.

Llwyddodd y tîm cyntaf i gyrraedd y ffeinal yn erbyn ysgol Gynradd Llan-non. Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gynradd Llan-non am gipio’r safle cyntaf, ac i dîm Llanarth am ddod i’r ail wobr ar ddiwedd y dydd. Da iawn i bawb a gymrodd ran!

Hoffwn ddiolch i Griced Cymru a Cheredigion Actif am drefnu’r ŵyl arbennig hon.

Eisteddfod Capel y Fadfa

13:30, 4 Mai (Oedolion £4 plant Dan 16 oed£1)

Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch

11:30, 18 Mai (£2.00 i'r eisteddfod leol, £3.00 gweddill y dydd Plant oed cynradd am ddim)

Cylchlythyr