Ffarwel i Barc Cross Inn

Mae’r gwaith o adnewyddu parc chwarae Cross Inn wedi dechrau.

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan
Gareth Ioan
20230617_081406

Mathew a Keith yn dadelfennu’r hen offer.

20230617_081335

Gyda pharc chwarae newydd yn yr arfaeth diolch i Gyngor Cymuned Llanllwchaearn a Chronfa’r Loteri Fawr, mae’r gwaith o baratoi wedi dechrau ar Sadwrn, 17 Mehefin.

Datgymalwyd yr offer gan Cyng Matthew Vaux a Keith Doyle yn gynnar yn y bore a daeth criw da ynghyd am 10.00 i godi’r llawr yn barod am y gweithwyr.

Edrychir ymlaen at weld osod y parc newydd erbyn diwedd Gorffennaf. Diolch i bawb a gynorthwyodd.