Gweithgor Anghenion Tai Lleol

Mae Gweithgor y 4 Llan i barhau’r gwaith ar anghenion tai lleol.

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan
20230627_2104091

Jo Rees, Matthew Vaux a Wayne Lewis yn trafod y sefyllfa tai yn lleol.

20230627_2103551

Y criw brwd ddaeth i darfod tai lleol yn Neuadd Caerwedros.

Ry’n ni angen codi tai lleol i bobl leol – dyna oedd casgliad cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd Caerwedros ar 27 Mehefin.

Daeth criw da ynghyd ar wahoddiad Gweithgor y 4 Llan i barhau’r drafodaeth ar anghenion tai lleol. Adroddodd Gareth Ioan ar gasgliadau’r arolwg tai lleol a gynhaliwyd yn haf 2022. Cafwyd crynodeb o Strategaeth Tai CS Ceredigion gan Cyng Matthew Vaux. Croesawyd Jo Rees, hwylusydd tai gwledig Ceredigion, atom a soniodd am ei rôl yn cynorthwyo cymunedau lleol yn y maes tai. Sbardunodd cryn ddiddordeb wrth sôn am y posibilrwydd o sefydlu ymddiriedolaeth tir cymunedol (communiuty land trust) yn lleol.

Gallai YTC (CLT) fod yn fodd creadigol o sicrhau bod modd i bobl leol – o bob oed – fedru fforddio tai yn eu cymunedau eu hunain. Penderfynwyd cynnal cyfarfod arall ym mis Medi i gael mwy o wybodaeth a thrafod ffordd ymlaen.

Gofynnodd y cyfarfod i Weithgor y 4 Llan barhau â’i waith er mwyn trefnu’r digwyddiad. Mae’r Gweithgor yn bartneriaeth rhwng pedwar o gynghorau cymuned yr ardal – Llanarth, Llanllwchaearn, Llandysiliogogo a Llangrannog ynghyd â nifer o sefydliadau lleol eraill, e.e. Capel Nanternis, C.Ff.I. Caerwedros a Phwyllgor Neuadd Caerwedros. Os oes grwpiau eraill eisiau ymuno â’r Gweithgor mae croeso mawr i chi gysylltu â’r hwylusydd, Gareth Ioan, er mwyn derbyn mwy o wybodaeth.