Sefydlu Pwyllgor Lles Tre-saith

Sefydlu Pwyllgor Lles Tre-saith

gan Hywel Gealy Rees
Rhai o bentrefwyr Tre-saith yn ymlacio ar ôl bod ar helfa sbwriel yn glanhau'r traeth, yr hewlydd a'r llwybrau. Llun Jess West

Aeth trigolion Tre-saith ati yn ddiweddar i sefydlu Pwyllgor Lles. Y nod yw rhoi pwyslais, nid yn unig ar wedd allanol y pentref, fel cymhendod, glendid a diogelwch, ond hefyd ar gymdeithasu a chreu rhwydwaith a fydd yn ei gwneud yn hawdd i’r pentrefwyr gysylltu â’i gilydd.

Etholwyd swyddogion, darparwyd cyfansoddiad a pharatowyd i agor cyfrif banc, trefniadau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau yn y dyfodol.

Trefnwyd eisoes sawl helfa sbwriel i lanhau’r traeth, y llwybrau a hewlydd y pentref. Derbyniodd y Pwyllgor Lles yn ddiweddar y newydd bod Tre-saith wedi ennill y Faner Las unwaith eto am flwyddyn arall. Mae’r faner hon yn wobr amgylcheddol iconig sy’n nodi traethau y trawsnewidiwyd eu hansawdd, eu diogelwch a’u gwasanaethau dŵr mewn dros 50 o wledydd. Mae gan Gymru reswm da i ymfalchïo yn y ffaith bod gennym fwy o draethau’r Faner Las fesul milltir nag unrhyw le arall yn y byd.

Cafwyd trafodaeth frwd yng nghyfarfod diwethaf y pwyllgor ynglŷn â’r dagfa drafnidiaeth sy’n digwydd yn gyson ger y lanfa ar waelod y pentref, yn enwedig yn ystod tymor gwyliau haf poblogaidd. Cytunwyd, fel cam cyntaf i wella’r cyfleusterau, i drafod y mater gydag Adran Priffyrdd y Cyngor Sir. Cytunodd y Cynghorydd Sir, Gwyn James, y gwnai bopeth i gefnogi ymdrech y pwyllgor.

Penderfynodd y pwyllgor hefyd i sefydlu gwefan yn weddol fuan lle bydd modd i roi hysbysrwydd i ddigwyddiadau ac atyniadau, ynghyd â chyflwyno gwybodaeth leol – fel nodi safleoedd llwybrau cyhoeddus y cyffiniau, er enghraifft.

Medd Cadeirydd y Pwyllgor Lles, Dr Hedydd Jones, ‘Mae’n galondid i weld nifer o bobol ifanc y pentref yn ymddiddori ac yn cymryd rhan yng ngwaith y pwyllgor newydd, ac yn teimlo eu bod yn gallu cael effaith gadarnhaol i wella ansawdd eu cymuned’.

Hywel Gealy Rees