Mae pwyllgor Neuadd Talgarreg yn awyddus i gasglu cyfrolau gan feirdd a llenorion yr ardal a chreu archif yn y pentre’. Y bwriad yw eu cadw yn y cwpwrdd llyfrau a rhoddwyd gan Urdd Gobaith Cymru er cof am ysgolfeistr blaengar Talgarreg, Tom Stephens (1897-1959), fel bod modd i fyfyrwyr, ymchwilwyr a’r rheiny sydd â diddordeb eu defnyddio.
“Mae’n syndod cynifer o feirdd ac awduron sy’n gysylltiedig â’r pentre’ dim ond i chi ddechrau eu cyfrif,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Gwyneth Davies, wrth alw am gyfraniadau. “Bydd hi’n dda cael cadw’r holl gyfoeth llenyddol mewn un man cyfleus lle mae modd i bawb ddod i bori ynddyn nhw. A lle gwell na neuadd goffa’r pentre’?
Cododd y syniad dros beint yn nhafarn Glan-yr-afon wrth gyfri’r beirdd a’r llenorion sydd â chysylltiad â Thalgarreg. Ynghyd â’r prifeirdd Sarnicol, Dewi Emrys a Donald Evans ychwanegwyd enwau’r Parch. Thomas Cynfelyn Benjamin a’r bardd gwlad Amnon at y rhestr. Heb anghofio’r digrifwr Eirwyn Pontshân a’i fam-gu Ruth Mynachlog. Yna mae’r bardd Gillian Clarke, Blaencwrt, a benodwyd yn Fardd Cenedlaethol Cymru o 2008 i 2016 – mae ei cherddi Saesneg hithau wedi bod yn rhan o faes llafur myfyrwyr ers dros 30 mlynedd bellach. Nid yw merched yn absennol o bell ffordd. Mae’r rhestr yn cynyddu gydag hunangofiannau Mair Davies, Gwardafolog, y faciwî Barbara Davies, Pantglas gynt, a Lizzie Mary Jones, Lonlas.
A dyna chi gyfieithiad Llinos Dafis, Crug yr Eryr Ucha’ gynt, o glasur Antoine de Saint Exupéry – Le Petit Prince. Y llynedd ym Mharis cafodd trosiad Cymraeg ‘Y Tywysog Bach’ ei gynnwys mewn arddangosfa fawr o luniau a llawysgrif wreiddiol y gyfrol Ffrangeg ynghyd â chopïau o bob cyfieithiad yn y byd.
Mae’r catalog yn cynyddu wrth gynnwys hunangofiant y gwleidydd a’r cyn Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Cynog Dafis, casgliad myfyrdodau’r diweddar annwyl Parch. Cen Llwyd a gwerslyfrau addysg plant bach Siân Wyn Siencyn, Sycharth. Hyd yn hyn mae dros hanner cant o lyfrau ar y rhestr.
Ac mae’n siŵr y bydd y stori’n cael ei gofnodi gan yr hanesydd lleol ac awdur Hanes Talgarreg, Lloyd Jones, Mynachlog.
“Mae hwn yn gyfle ardderchog i ddathlu a dyrchafu diwylliant yr ardal hefyd,” meddai Gwyneth Davies ynglŷn â chrynhoi’r dros hanner cant o lyfrau. “Breuddwyd Tom Stephens oedd gweld llyfrgell fach dda yn Nhalgarreg.
Ac mae’n siŵr bod rhagor i’w ychwanegu at y rhestr.”
Am fanylion pellach neu roddion, cysylltwch â chydlynydd y prosiect, Robyn Tomos ar robyn.tomos@outlook.com neu 07974 303923.