Merched Beca, menywod enwog Cymru ac ysbryd gwrthryfelgar cefn gwlad – dyna dri yn unig o’r pethau sy’n ysbrydoli celf Meinir Mathias, yr artist o Dalgarreg.
Bu Meinir yn trafod ei gwaith mewn sgwrs gyda Robyn Tomos, hefyd o Dalgarreg, mewn noson a noddwyd gan Merched y Wawr y Bryniau yn ystod Gwyl Foel Gilie. Daeth cynulleidfa dda ynghyd i Neuadd Caerwedros i werthfawrogi lluniau trawiadol Meinir ac i glywed Meinir yn siarad am ei hysbrydoliaeth a’i dylanwadau – gan gynnwys ei thad-cu creadigol oedd yn hanu o Lan-y-chaer, Sir Benfro.
Magwyd Meinir yn ardal Cross Inn cyn ymgartrefu yn Nhalgarreg, ble mae ei stiwdio. Mae ei gwaith yn denu sylw eang. Prynwyd darn o’i gwaith gan y Llyfrgell Genedlaethol ac mae hi’n arddangos yn aml yn Oriel Glyn-y-weddw, Llanbedrog, ac Oriel Ffin-y-parc, Dyfffryn Conwy.
Mae Meinir yn tynnu ei hysbrydoliaeth o chwedloniaeth a hanes Cymru ac mae ei phortreadau trawiadol wedi creu cryn argraff. Efallai i chi gofio mai Meinir fu’n gyfrifol am bortreadu’r naturiaethwr Iolo Williams yn y gyfres ‘Cymry ar Gynfas’ ar S4C yn ddiweddar.
Os am weld enghraifft gwbl ryfeddol o’i gwaith, ewch i ganolfan hamdden Llandysul lle mae ganddi furlun anferthol yn dathlu cyswllt y dref gydag Elen, mam Owain Glyndwr. Dymunwn pob llwyddiant iddi i’r dyfodol.