Cafwyd gwledd o gerddoriaeth yng Nghapel Nanternis ar nos Sul, 29 Hydref, gyda acwstig yr adeilad yn ychwanegu at y naws werinol hyfryd.
Celt Dafydd a Ela-Mablen Griffiths-Jones oedd yn agor y noson gyda’u lleisiau clir fel dwy gloch. Mae’r ddau eisoes yn disgleirio ar lwyfannau lleol a chenedlaethol. Pob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol.
Bydd dyfodol llewyrchus yn y byd llefaru i Elis Evans hefyd. Cafwyd darn digri hwyliog iawn ganddo – Y Trip i’r Traeth! Yn dilyn Elis daeth ei fam-gu, Gwenno Evans, i’n hudo â’i dawn llefaru hithau (Y Garreg Wen). Arddangosodd ei dawn actio hefyd, wrth iddi gyflwyno monolog ddifyr yn seiliedig ar fywyd Cranogwen. Oes diwedd ar ei thalent?!
Rydym yn ffodus iawn yn ardal y Cwilt o gael cerddorion gwerin cystal â Ceri Owen-Jones (telyn) ac Elsa Davies (ffidil) yn byw yn ein plith yn y Cei. Fe gyfareddwyd y gynulleidfa gan Ceri yn canu ei delyn deires, gyda’r nodau’n chwyrlio fel sêr i’r oriel uwchben. Arallfydol. I goroni hynny cafwyd deuawd lleisiol ac offerynnol gwbl hudolus rhwng Ceri ac Elsa. Bendigedig!
Os nad oedd hynny’n ddigon o wledd rhoddwyd y llwyfan i Merched Soar i gloi’r noson. Dan arweiniad Carys Mai cawsom ein hudo gan eu harmoniau cynnes a’u sain glân. Roedd yr amrywiaeth o ganeuon gwerin, canu cysegredig a chaneuon ysgafn yn plesio i’r dim. Rhagorol!
Arbrawf oedd Nos Sul Swynol. Ond arbrawf a lwyddodd. Cadwch olwg am fwy o nosweithiau swynol yn Nanternis. Mae’n leoliad hyfryd i gynnal gigs acwstig a gwerinol. Diolch i bawb wnaeth y noson gymaint llwyddiant.
O, ie – a diolch am y bwyd yn y festri! Mmmm!