gan
Elliw Grug Davies
Llongyfarchiadau mawr i Noa Harries sydd wedi cael ei ddewis i garfan Tîm Rygbi Scarlets, o dan 16oed. Mae Noa yn aelod ffyddlon o Glwb Ffermwyr Ifanc (C.Ff.I) Caerwedros. Rwyt yn llawn haeddiannol o’r cyfle yma. Mae’r clwb yn browd iawn ohonot ti. Bydd y tîm yma o dan 16oed yn herio’r Gweilch ar y nos Fercher yn ystod yr wythnos yma yn y Gnoll am 19:15y.h. Pob lwc i ti. Pob llwyddiant i ti i’r dyfodol Noa.
Llongyfarchiadau i Morgan Evans sydd wedi cael ei ddewis i Dîm Bowlio o dan do, o dan 21oed i Gymru. Da iawn i’r tîm Cymru yma a wnaeth ennill yn erbyn Lloegr y ddiweddar. Hefyd, rwyt yn aelod brwdfrydig o C.Ff.I Caerwedros. Pob lwc a llwyddiant i ti Morgan.