Mae adroddiad ESTYN ar Ysgol Gymunedol Talgarreg wedi’i gyhoeddi ac yn nodi arbenigrwydd a gwychder yr ysgol o ran ei Chymreictod ac o ran gwreiddio’r plant yn y gymuned, yn ogystal ag o ran ethos groesawgar a chynhwysol yr ysgol.
Yn ôl yr adroddiad mae disgyblion yr ysgol ‘yn falch iawn o siarad Cymraeg ac yn ymfalchïo’n llwyr yn eu hetifeddiaeth a’u treftadaeth’.
Ar ôl i arolygwyr dreulio pedwar niwrnod yn Ysgol Talgarreg ddechrau fis Mawrth mi roedd eu hadroddiad, a gyhoeddwyd Ddydd Iau 9 Mai 2024 yn pwysleisio ar sawl achlysur sut oedd yr ysgol yn rhagori o ran y berthynas agos iawn sydd rhyngddi â’r gymuned.
Cyfeirir at angerdd y disgyblion dros eu hardal a’i hanes cyfoethog, pwysigrwydd y cyd-destun lleol wrth addysgu a’r gwerthfawrogiad o ddiwylliant Cymreig.
Nodir yn yr adroddiad fod yr ‘ysgol yn ganolbwynt gwirioneddol yn y gymuned’.
Rhywbeth arall y pwysleisir arno yn yr Adroddiad ydy awyrgylch gynnes, diogel a chynhwysol yr ysgol, gan gyfeirio at yr ysgol fel ‘cymuned weithgar, hapus a chynhwysol ble mae ymdeimlad cryf bod pob disgybl yn aelod o deulu mawr clos.’
Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad mi anfonwyd nodyn o longyfarchiadau at brifathrawes, staff, llywodraethwyr a dysgwyr yr ysgol oddi wrth Anwen Orrells, Arweinydd Strategol Partneriaid Addysg Canolbarth Cymru.
Mi nododd mai: ‘Braf iawn oedd cael darllen am gymuned hapus a diogel eich ysgol, ble mae’r dysgwyr yn gwrtais, cyfeillgar ac yn ymddwyn yn dda…..a’r dysgwyr yn gwneud cynnydd cryf ar draws y cwricwlwm.’
Ychwanegodd: ‘ Roedd hi’n bleser i ddarllen yr adroddiad positif yma – felly llongyfarchiadau mawr i chi gyd.’
Dywedodd Bethan Morgan-Jenkins, Prifathrawes yr Ysgol:
“Ry’n ni mor falch bod ein gweledigaeth a’n cryfderau ni fel ysgol yn cael eu hadlewyrchu yn yr Adroddiad hwn – ein Cymreictod, ein gofal dros ein gilydd, a’r addysg dda. Wrth lwyddo i wreiddio yr addysg yn y gymuned a sicrhau mai’r plant sy’n arwain y cwricwlwm, ac o lwyddo i greu awyrgylch ddiogel, rydym yn creu yr amgylchiadau perffaith sydd eu hangen ar blant i allu dysgu a ffynnu.”
Dywedodd Gareth Lloyd, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Talgarreg:
Ry’n ni’n hynod falch o’n hysgol a phawb sydd ynghlwm â hi – y gymuned, y staff ac wrth gwrs y plant. Mae’n glir gweld o’r Adroddiad hwn fod yr ysgol yn ymgorfforiad o’r hwn y dylsai ysgol gymunedol fod, wrth fagu plant sy’n mynd i dyfu i fod yn ddinasyddion dedwydd a chyflawn. Yn sicr mae’r ysgol yn ased i’r ardal, i sir Ceredigion ac i Gymru. Dw i’n hynod falch fod yr arolygwyr wedi adnabod Cymreictod yr ysgol a’r ffaith fod yr ysgol a’r gymuned yn ddiwahân. Ry’n ni’n falch hefyd o fod yn gallu bodloni gofynion y Cwricwlwm i Gymru ac mae’n edrych yn debyg fod cyfraniad yr ysgol i Ddeddf Llesiant y Dyfodol yn fawr. Rydym yn sicrhau’r ymdeimlad o wreiddiau ac o berthyn ymhob un plentyn.’