Twrnameintiau pêl-droed Llanfihangel-ar-arth

Llwyddiant Ysgol Gymunedol Talgarreg

Teleri Morris-Thomas
gan Teleri Morris-Thomas
PXL_20240612_143530195

Marged Dafis chwaraewraig orau y twrnamaint hŷn

PXL_20240612_180656008

Neli Evans chwaraewraig orau twrnamaintt Iau

PXL_20240611_174228599.MP_

Tîm 1 hŷn

IMG-20240611-WA0007

Tîm 2 hŷn

PXL_20240612_171419804

Tîm Iau

Llongyfarchiadau i dri thîm Ysgol Talgarreg, sef 21 o blant a fu yn cynrychioli’r ysgol dros ddwy noson o chwarae brwd.

Cafwyd canlyniadau arbennig gyda Thalgarreg yn cyrraedd y rowndiau cynderfynol ar y ddwy noson:

Nos Fawrth 13eg, blwyddyn 4 i 6.

Tîm 1, blwyddyn 6 yn ennill grŵp 1.

Tîm 2 blwyddyn 4 a 5 yn ail yn grŵp 2.

Aeth tîm 2 ymlaen i’r gemau gogynderfynol gan golli yn erbyn Llanpumsaint a aeth ymlaen i ennill y twrnamaint. Enillodd tîm 1 yn y gêm gogynderfynol yn erbyn Bro Teifi 3 ac aethant ymlaen wedyn i’r gêm gynderfynol yn erbyn Bro Teifi 5. Roedd yn gêm llawn tensiwn – ar ôl amser ychwanegol ac oherwydd diffyg sgôr bu’n rhaid cicio o’r smotyn, 7 gwaith! Yn anffodus, collwyd ar y cyfle i fynd i’r rownd derfynol ar ôl brwydr a hanner!

Nos Fercher 12fed, blwyddyn 1 i 3

Gwnaeth y tîm iau ennill 2 gêm a cholli 1 gêm. Llwyddon nhw i fynd ymlaen i’r gemau cynderfynol yn erbyn Bro Teifi 3. Unwaith eto, fel y noson cynt, cafwyd gêm llawn tensiwn a chanlyniad o 1 gôl yr un, gyda gôl funud olaf gan Fro Teifi yn yr eiliadau olaf. Ymlaen felly i amser ychwanegol a chwarae am y gôl euraidd. Munud cyn diwedd yr ail hanner o amser ychwanegol sgoriodd Bro Teifi. Er tegwch, aeth Bro Teifi 3 ymlaen i ennill y twrnamaint ac felly chwarae gwych gan griw Talgarreg.

Llongyfarchiadau i holl chwaraewyr Talgarreg a diolch i bwyllgor Parc chwarae Llanfihangel-ar-arth am drefnu’n arbennig.

Cafwyd clod mawr i’r ysgol wrth i ddwy serennu yn y ddau dwrnamaint. Llongyfarchiadau i Marged Dafis ar ennill chwaraewraig y twrnamaint hŷn ac i Neli Evans a enillodd chwaraewraig y twrnamaint Iau.