Ar y 22ain o Fehefin, daeth cefnogaeth dda ynghyd ar gae Ysgol Talgarreg i fwynhau’r Carnifal, Mabolgampau, Ras Siôn Cwilt a’r Rownderi plant ac oedolion.
Cafwyd gwledd i’r llygad yn y carnifal wrth i’r cylch lenwi â gwisgoedd o bob lliw a llun a syniadau penigamp. Swydd Llywyddion a Beirniaid y dydd, Sanda Webb (Llandysul) ac Ann Thomas (Bwlchyfadfa) oedd penderfynu ar yr enillwyr (yn ben tost go iawn mewn sawl categori), a dyma bencampwyr pob categori:
dan 2 oed: Greta (Gŵyl cofio Cen) a Hari (Llew o’r syrcas)
Meithrin (2-3 oed): Endaf (Arolygydd Estyn) a Heti-Ann (Gerald Nantygwyddau)
Derbyn: Tudor (Cneifiwr)
Bl. 1 a 2: Beca (Heb amaeth, heb faeth)
Bl. 3 a 4: Sara (Cofio merched Talgarreg Deiseb Heddwch 1924) a Betsan (200 mlynedd RNLI)
Bl. 5 a 6: Elis (Cneifiwr Nantygwyddau)
Oedolion: Gareth (Magi Post, Pobol y Cwm 50 oed)
Pâr: Efan a Gwion (Gwasanaethau argyfwng) a Heti-Ann ac Jini-Mai ( Gerald a’r oen bach)
Endaf Lloyd gipiodd cwpan Her David a Liz Woolley, Llawrcwrt am fod yn bencampwr terfynol y carnifal.
Rhaid oedd newid yn gyflym i ddillad ymarfer corff ar gyfer y mabolgampau. Roedd cystadlu brwd yn y rasys rhedeg, wy a llwy a whilber – o’r plant o dan 2 oed hyd at y pensiynwyr! Wedi hynny, daeth y rasys trawsgwlad cynradd a Ras Siôn Cwilt i oedolion. Llongyfarchiadau i Gwydion (dros 18 oed), Marged (merch gynradd) a Jac (bachgen cynradd).
Gwydion Dafis gipiodd Tarian Her Megan Jones, Gwylfa gynt, am y drydedd flwyddyn yn olynol, er bu rhaid iddo weithio’n galed i’w ennill eleni!
Cafwyd llawer o sbort a sbri yn y gemau rownderi! Aeth y cwpan i’r tîm rownderi plant buddugol i dîm B (cymysg ar y dydd), a’r cwpan i’r tîm rownderi i oedolion i dîm 1.
Llongyfarchiadau i’r holl enillwyr a diolch i bawb am gymryd rhan a chefnogi ac i’r gymuned gyfan am dynnu ynghyd i gynorthwyo ar y diwrnod.
Diolch yn fawr i bwyllgorau Cymdeithas Rhieni ac Athrawon Ysgol Talgarreg ac Adran Bentre’ Talgarreg am drefnu’r dydd. Diolch hefyd i Ferched y Wawr Talgarreg am y lluniaeth arbennig yn y prynhawn, i bwyllgor Neuadd Talgarreg am y BBQ gyda’r hwyr, ac i Golwg y Môr am yr hufen iâ blasus.