Gŵyl Cen

Gŵyl gynhaliwyd i ddathlu bywyd a gwerthoedd Cen Llwyd

gan Sian Wyn Siencyn

Talwrn y Beirdd – Gillian o dîm Crannog

Talwrn y Beirdd – Iwan o’r Vale yn codi gwên

Talwrn y Beirdd – Y Prifardd Idris gyda’i gywydd gwych

Talwrn y Beirdd – Y Meuryn Mererid yn methu penderfynu…

P1008108

Talwrn y Beirdd – Y beirdd a’r Meuryn fu’n ymrysona yn y Talwrn gydag Enfys, Heledd, a Gwenllian Llwyd

Noson Lawen – Teleri Morris-Thomas ac Einir Ryder yn arwain

Noson Lawen – Ysgol Talgarreg

Noson Lawen – C.Ff.I. Pontsian (Monolog gan Magw)

Noson Lawen – C.Ff.I. Pontsian (Deuawd gan Alwena a Gwennan)

Noson Lawen – C.Ff.I. Pontsian (Stand-yp gan Steffan)

Noson Lawen – Dilys a Doris

Noson Lawen – Bois y Gilfach

Noson Lawen – Tecwyn Ifan

448332994_380526871700034

Geiriau Cân Cen gan Ysgol Talgarreg

Y Gwasanaeth Heddwch - Elis yn darllen Gweddi Desmond Tutu

Y Gwasanaeth Heddwch – Elis yn darllen Gweddi Desmond Tutu

Cynulleidfa’r Gwasanaeth Heddwch

Y Gwasanaeth Heddwch – Dylan yn cofio Cen

Y Gwasanaeth Heddwch – Mali, Alaw a Cerys yn darllen Deiseb Heddwch 1923

Roedd Neuadd Talgarreg yn llawn hwyl, chwerthin, barddoniaeth, a munudau dwys i feddwl dros benwythnos braf ym Mehefin. Cynhaliwyd yr ŵyl arbennig i ddathlu bywyd a gwerthoedd Cen Llwyd. Mae’n ddwy flynedd ers i Cen farw ac er i’r flwyddyn neu ddwy olaf o’i fywyd fod yn hynod heriol, roedd ei gyfeillion am ei gofio fel yr oedd:  hwyliog, heriol, dewr, doniol, cwbl ddiflino yn ei ymroddiad i’w fro ac i Gymru.

Cychwynnodd y penwythnos gyda Thalwrn y Beirdd a thri thîm lleol yn ymryson, sef Glannau Teifi, Crannog, a’r Vale.  Yr Archdderwydd Mererid Hopwood oedd yn meurynna a Nia Wyn Evans, Dolgerdd yn cadw’r sgôr. Cafodd y Meuryn amser heriol yn penderfynu wrth farcio cynigion y beirdd a hynny am fod y cerddi mor wych.  O drwch blewyn (hanner marc), Glannau Teifi aeth â hi er bod rhai’n dal i ddadlau bod Crannog wedi cael cam! Cyflwynwyd platiau hardd, a wnaed gan gwmni Cadwyn yn nodi’r achlysur arbennig, i’r timoedd gan Enfys Llwyd.

Yn dilyn noson gofiadwy, cafwyd paned a gwledd wedi ei baratoi gan bwyllgor y Neuadd. Wedyn nos Sadwrn. Beth sydd i’w ddweud ond wow a gwych! Roedd y Neuadd dan ei sang – drysau’r bac ar agor a rhagor o seddi wedi eu benthyg o’r ysgol. Dyma beth oedd Noson Lawen, go iawn. Sgetsys, canu, jôcs (gwyliwch mas am enw Steffan – stand-yp mwyaf addawol Cymru!) gyda chyfraniadau gwych gan blant Ysgol Talgarreg (ac IESTYN), CFfI Pontsian, Bois y Gilfach, a’r anfarwol Tecwyn Ifan yn swyno gyda’i glasuron. Roedd y cyfan yn cael ei arwain yn hwyliog braf gan Teleri ac Einir – gyda bach o help gan Dilys a Doris. Os nad oeddech chi yno, mae’n anodd disgrifio’u cyfraniad nhw.

I gloi’r penwythnos arbennig, cynhaliwyd Gwasanaeth Heddwch a dyna braf oedd gweld y Neuadd unwaith eto yn llawn a braf hefyd oedd gweld cynifer o gyfeillion o gapeli ac eglwysi’r fro yn ymuno â ni yn y cwrdd syml. Doedd dim pregeth arferol yn y gwasanaeth hwn – yn hytrach cafwyd teyrnged ysgubol gan Dylan Iorwerth yn dathlu gwaddol Cen. A daeth y cwrdd i ben gyda darlleniad o englynion coffa’r Prifardd Donald Evans i Cen.  Arhosodd bawb am sgwrs a phaned – clo hyfryd i benwythnos oedd yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.  Casglwyd dros £700 wrth y drws i Apêl Gaza UNICEF.

Roedd y Neuadd wedi ei haddurno’n hardd ar gyfer y penwythnos a bu aelodau Pwyllgor y Neuadd a Merched y Wawr wrthi’n ddiwyd yn paratoi lluniaeth hael yn dilyn pob un o’r digwyddiadau.

Byddai Cen wedi joio’r cyfan, wedi bod yn arwain, yn dweud jôcs (rhai sobor o wael weithiau), ac yn ein hannog ni i gyd i wynebu’r heriau gyda gwên.

Dymuna Ffrindiau Ffostrasol a’r Cylch a Phwyllgor Neuadd Talgarreg ddiolch i bawb am y gefnogaeth a’r cymorth i gynnal penwythnos bythgofiadwy.