Be sy’ mlân gyda chi ar ddydd Gwener, Hydref 11? Dim byd? Wel beth am ddod i steddfod flynyddol Llanarth yn neuadd y pentre’.
Bydd plant ysgol Llanarth yn cystadlu yn y pnawn, ac yna am 5.30yh, bydd yr adran agored yn dechrau. Os ydych o dan 18 oed, ac yn hoffi perfformio, dyma’r steddfod i chi.
Mae yna wobrau ariannol ym mhob cystadleuaeth. Ac eleni, mae gyda ni rywbeth yn ychwanegol! Mae Gill Hearne o Faenygroes, gynt o Fydroilyn a Llanarth, wedi rhoi rhodd arbennig i’r steddfod. Mae wedi penderfynu rhoi rhai o’r cwpanau a enillwyd ganddi tra’n eisteddfota ei hunan, fel gwobr ychwanegol i’r cystadleuwyr dan 12 oed. Diolchwn yn fawr i Gill am ei haelioni, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar i weld pwy sy’n mynd i dderbyn y cwpanau arbennig yma.
Addas iawn eleni yw’r gystadleuaeth darllen rhan o nofel Tân ar y Comin i’r rhai dan 16 oed, gan gofio mai Hydref 11 yw diwrnod T Llew Jones!
Cofiwch hefyd am yr adran gwaith cartref. Cyfansoddiadau a ffugenwau i’w danfon i’r ysgrifennydd erbyn dydd Sadwrn, Medi 28. Felly bant a chi i sgwennu!
Edrychwn ymlaen at eich gweld yn steddfod Llanarth ‘leni!