Meillion ‘Maes a Môr’

Ai pori a chynaeafu’r Trifolium yw’r ateb i ddyfodol amaeth yng Ngheredigion?

gan Robyn Tomos
Dr Cennydd Jones

Dr Cennydd Jones, Pont-siân

Dyna gwestiwn siaradwr gwadd nesaf rhaglen gyflwyniadau ‘Maes a Môr’, Ffrindiau Ffostrasol. “Ai meillion yw’r allwedd i ffermio cynaliadwy?” a dyma fydd pwnc trafod Dr Cennydd Jones yn Nhafarn Ffostrasol ar nos Lun, 16 Medi. Ac yntau’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn un o arweinwyr Clwb Ffermwyr Ifainc Pont-siân mae gwestai nesaf ‘Maes a Môr’ yn arbenigo ar laswelltir. Bydd cyflwyniad Cennydd Jones, sy’n dal i  helpu ar y fferm odro deuluol yng Ngheredigion, yn rhoi cychwyn ar gyflwyniadau gweddill y flwyddyn Maes a Môn. Mae’r rhaglen yn cynnwys y cyfarwyddwr artistig Euros Lewis yn sôn am Straeon Celwydd Golau, yr athronydd gwleidyddol Dr Huw Williams yn trafod gwaddol y meddyliwr a’r radical Richard Price a sesiwn gyda’r bugail a’r bardd Sam Robinson ynglŷn â dysgu Cymraeg, cynganeddu a gwneud seidr.

Tro’r merched fydd hi yn 2025 gyda Dr Cerys Jones yn sôn am dywydd eithafol, Marian Delyth am yrfa oes yn tynnu ffotograffau, Beti George am 40 mlynedd o ddarlledu a Jen Llywelyn yn sôn am yr heddychwr George M Ll Davies.

O’r poblogaidd i’r ysgolheigaidd, trefnu rhaglen amrywiol ac uchelgeisiol yw’r nod. Hen ac ifanc, mae croeso i bawb ymuno â’r sesiynau yng nghartref newydd Maes a Môr yn nhafarn Ffostrasol ar y drydedd nos Lun bob mis.

Trefnir cyflwyniadau Maes a Môr gan Ffrindiau Ffostrasol a’r Cylch gyda’r amcan o fywiogi bywyd cymdeithasol a diwylliannol Cymraeg yr ardal. ï

“Ai meillion yw’r allwedd i ffermio cynaliadwy?”, Maes a Môr, Tafarn Ffostrasol am 7.30pm, nos Lun, 16 Medi 2024

Dweud eich dweud