Eisteddfod Gadeiriol Llanarth 2024

Cystadleuwyr yn cynnal cyngerdd!

Nerys Jones
gan Nerys Jones
llanarth-cadair-1

Gwenno Lois, enillydd cadair adran yr ysgol, gyda Miss Haf

llanarth-unigolion-1

Unigolion gyda’r nifer fwya o bwyntiau

llanarth-cadair-ne-1

Aeron Dafydd, enillydd y gadair

llanarth-canu-1

Greta a enillodd gwpan Tegfan am chwarae piano, a’r unawdydd mwyaf addawol dan 12

llanarth-dan-18-1

Fflur McConnell, yn ennill y cwpan am y perfformiad mwyaf cofiadwy dan 18

llanarth-llefarydd-3

Gruff a enillodd cwpan Mr a Mrs Geraint Hughes am y llefarydd gorau

Cynhaliwyd Steddfod Gadeiriol Llanarth ar ddydd Gwener Hydref 11 – y disgyblion lleol yn dangos eu donie yn y pnawn, gyda’r adran agored yn yr hwyr.

Gyda llond neuadd bentre’ yn cefnogi plant ysgol Llanarth, y beirniaid oedd y Ficer Wyn Maskell (cerdd) Donald Morgan (llefaru) a Sian Abbott (arlunio). Y cyfeilydd oedd Ceirios Gruffydd. Cafwyd pnawn cofiadwy, gyda’r beirniaid wedi cael gwres eu trad, a’r sylw a gafwyd ganddynt ar ddiwedd y pnawn oedd “cyngerdd o steddfod!” Diolch i’r staff am baratoi’r plant mor drwyadl.

Dyma ganlyniade cystadlaethau llwyfan y pnawn –

Dosbarth derbyn – Canu – 1. Ifan 2. Arloe 3. Alaw. Llefaru – 1. Elis 2. Ifan 3. Alaw a Tomi Llŷr

Blwyddyn 1 – Canu 1. Elina 2. Maelor 3. Tomos a Sam. Llefaru – 1. Tomos 2. Elina 3. Maelor

Blwyddyn 2 – Canu 1. Evie 2. Jasmine 3. Daisy. Llefaru – 1. Jasmine 2. Evie 3. Gethin

Blwyddyn 3 a 4 – Canu 1. Elsi 2. Lydia 3. Trekira. Llefaru – 1. Efan 2. Lydia 3. Elsi

Blwyddyn 5 a 6 – Canu 1. Gwenno Ruth 2. Gwennan Lois 3. Clarissa. Llefaru – 1. Gwennan Lois 2. Gwenno Ruth 3. Clarissa

Offerynnol – 1. Gwennan Lois 2. Molly 3. Gwenno Ruth a Lydia

Enillydd y Gadair – 1. Gwennan Lois 2. Gwenno Ruth 3. Molly

Unigolion gyda ‘r nifer mwya’ o bwyntiau – Gwenno Ruth a Gwennan Lois

Tŷ buddugol – Llywelyn

Yna am 5.30, tro’r cystadleuwyr yn yr adran agored oedd hi. Eleni roedd gwobrau ychwanegol i’r enillwyr o dan 12 oed. Mae’r steddfod yn hynod ddiolchgar i Gill Hearne (gynt o Fydroilyn a Llanarth) am y rhodd o rai o’r cwpanau a enillodd hi wrth gystadlu sawl blwyddyn yn ôl.

Y beirniaid oedd Nicky Roderick (cerdd) Ann Davies (llefaru) Endaf Griffiths (llên) gyda Tudur Jones wrth y piano. Y llywydd am y dydd oedd Heulwen Thomas o Gaerdydd, ond gynt o Bencae, Llanarth. Cafwyd ganddi araith deimladwy yn sôn am ei hamser yn Llanarth ac yn dilyn eisteddfodau’r wlad, gyda’i mam yn dilyn map i ddod o hyd i’r neuaddau pentre’ – nid Satnav!! Diolch am ei phresenoldeb drwy’r dydd ac am ei rhodd haelionus i’r steddfod.

Cafwyd seremoni gadeirio gofiadwy wrth i’r beirniad Endaf Griffiths lywio’r seremoni a thraddodi’r feirniadaeth yn ei ffordd hwyliog ef ei hun! Allan o 27 ymgais, enillydd y gadair oedd Aeron Dafydd o Groeslan. Diolch i Aled Dafis am lunio’r gadair eleni eto, ac i Fflur McConnell, Jessica Evans a Charlie Storrey am gymryd rhan flaenllaw yn y seremoni.

Dyma ganlyniade yr adran agored –

Unawd dan 6 – 1. Ffion 2. Alaw 3. Anest. Llefaru dan 6 – 1. Ffion 2. Alaw 3. Anest

Unawd dan 8 – 1. Heti 2. Ifan 3. Ilan Rhun. Llefaru – 1. Ifan 2. Heti 3. Ilan Rhun

Unawd dan 10 – 1. Greta 2. Neli 3. Bethan. Llefaru – 1. Bethan 2. Non 3. Neli a Grug

Canu’r piano dan 12 a chwpan her Teulu Tegfan – 1. Greta 2. Gruffydd 3. Neli ag Alys

Canu emyn da 12 1. Gruffydd 2. Hana 3. Non

Alaw werin dan 12 – 1. Greta 2. Gruffydd 3. Hana ag Ilan Rhun

Cerdd dant dan 12 – 1. Greta 2. Gruffydd 3. Hana

Llefaru dan 12 – 1. Gruffydd 2. Celyn ag Efa 3. Gwenno

Canu dan 12 – 1. Greta 2. Gruffydd 3. Hana

Cwpan her Mr a Mrs Geraint Hughes a’r teulu i’r llefarydd mwya’ addawol dan 12 – Gruffydd Rhys

Cwpan her Teulu Brynawen i’r unawdydd mwya’ addawol dan 12 – Greta Ann Jones

Unawd dan 18 – 1. Fflur

Llefaru dan 18 – 1. Fflur

Dweud jôc dan 16 – 1. Gwenno 2. Fflur

Canu emyn dan 18 – 1. Fflur

Darllen darn o Tân ar y Comin dan 16 – 1. Fflur 2. Gwenno

Alaw werin dan 18 – 1. Fflur

Unrhyw offeryn cerdd dan 18 – 1. Lleucu 2. Fflur

Cwpan her Isabel i’r perfformiad mwya’ cofiadwy dan 18 – Fflur McConnell

Y gadair – gwobr llenyddiaeth yr ifanc – 1. Aeron Dafydd

Cerdd ddigri – 1,2 a 3 – Megan Richards

Limrig – 1. Megan Richards 2. Rhidian Evans 3. Susan Rees

Brawddeg – 1. Megan Richards 2. Iwan Thomas 3. Megan Richards

Noson Caws, Gwin ac Ocsiwn

19:30, 29 Tachwedd (£5 y tocyn, ar gael o'r Cylch Meithrin neu gallwch dalu wrth y drws)

Cyngerdd Nadolig Cylch Meithrin Llanarth

18:30, 5 Rhagfyr (Mynediad yn £3. Plant meithrin a chynradd am ddim)

Cylchlythyr