Mae Ysgol Gynradd Llanarth yn 140 oed a rhaid dathlu! Bydd cyngerdd arbennig ar nos Wener 8fed o Dachwedd yn yr Ysgubor, Moody Cow i ddechrau am 6.30. Yr artistiaid bydd disgyblion presennol yr ysgol, Gareth John a Ceirios Gruffydd – dau o gyn-ddisgyblion yr ysgol, a CFFI Mydroilyn. Falle bydd ambell i artist arall! Y llywydd anrhydeddus yw Mr Geraint Hughes, cyn-brifathro’r ysgol. Dewch yn llu i ddathlu!
Bydd y dathlu wedi dechrau ar y dydd Llun blaenorol, gydag ymweliad Mr Geraint Hughes a’r ysgol. Dydd Mawrth bydd sinema hanesyddol i blant yr ysgol ac yna ar ddydd Mercher, 6ed o Dachwedd, bydd prynhawn agored i’r cyhoedd yn yr ysgol, a chyfle i hel atgofion dros baned rhwng 2.00 a 4.30. Cofiwch ddod i’n gweld!
Ar y dydd Iau bydd gemau bwrdd Oes Fictoria gyda’r plant yn gwisgo i fyny fel disgyblion o’r oes Fictoria ar y dydd Gwener. Ar y nos Wener bydd y cyngerdd i roi clo i’r wythnos o ddathlu. Edrych ymlaen at eich gweld!