Mae YTC 4 Llan wedi dechrau ar nodyn cadarnhaol wrth dderbyn nifer o grantiau i ddechrau ar y gwaith.
Datblygu gallu’r ardal i ymateb i heriau cyfredol yw bwriad YTC 4 LLan – boed hynny yyn y maes tai fforddiadwy, datblygu ynni adnewyddadwy, defnydd tir ar gyfer hamdden a chadwraeth neu gyfoethogi bywyd cymunedol.
Mae ein hymddiriedolaeth tir cymunedol lleol newydd ennill grant gan y Loteri Genedlaethol i gytundebu â Hwylusydd Prosiect. Bwriad y swyddog rhan-amser yma fydd cynorthwyo’r Bwrdd i ddatblygu gwaith yr ymddiriedolaeth, gwireddu’r weledigaeth a hwyluso nifer o brosiectau yn lleol.
Mae un o’r prosiectau cyntaf hynny eisoes ar waith. Bydd 4 Llan yn cynnal 3 gweithdy yn yr ardal dros fisoedd y gaeaf – yn Nhalgarreg, Caerwedros Phontgarreg – pan bydd pobl lleol yn gallu profi diogelwch eu hoffer trydanol a chael talebau i’w cynorthwyo i’w hadnewyddu. Cafwyd grant gan y corff Diogelwch Trydanol yn Gyntaf (Electrical Safety First) i fynd at y gwaith hwn. Mae Bwrdd 4 Llan yn gobeithio mai dyma’r prosiect cyntaf o lawer a fydd yn dwyn budd i ardal Cwilt 360 a’i thrigolion.
Os oes diddordeb gennych chi yng ngwaith yr Hwylusydd Prosiect, gallwch ffonio 07966 936297 am fwy o wybodaeth neu bori ar ddalen swyddi Golwg 360 yma: Hwylusydd Prosiect – Swyddi360