Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yn Ysgol Talgarreg dros yr wythnosau diwethaf! Bu’r ysgol yn llawn bwrlwm a chyffro wrth i bawb baratoi at un o uchafbwyntiau’r flwyddyn sef y Sioe Nadolig.
‘Lliw a Llun’ oedd thema’r tymor a ‘Lledrith lliwiau’r ’Dolig’ oedd teitl y sioe eleni. Cafodd y plant gyfle i rannu syniadau cyn i ddisgyblion Dosbarth Sarnicol fynd ati i greu sgript wreiddiol gyda Mrs Jenkins fel capten ar y criw.
Cafodd y gynulleifa wledd yn ystod y ddau berfformiad, wrth i gorachod prysur Blwyddyn 6 ein tywys ar daith arbennig i achub lledrith lliwiau’r Nadolig. Roedd hi’n hyfryd gweld pob disgybl yn cael y cyfle i ddod a’r sioe yn fyw ar y llwyfan gan fagu hyder drwy ganu a pherfformio.
Cyn diwedd y tymor, cynhaliwyd noson gymdeithasol Hwyl yr Ŵyl yn Neuadd Talgarreg. Dechreuwyd y noson drwy ganu carolau ac yna cafodd pawb gyfle i fwynhau rholiau twrci, mins peis a chlonc. Diolch i Meilyr Hedd Tomos am ychwanegu at naws y noson drwy chwarae caneuon Nadoligaidd swynol ar yr organ.
I orffen y tymor, cafwyd prynhawn hyfryd yn y Llyfrgell Gymunedol. Yn dilyn ymweliad a stori gan Siôn Corn, cafodd pawb gyfle i gymdeithasu gyda phaned a mins peis a wnaethpwyd gan y disgyblion.
Diolch i bawb am bob cefnogaeth yn ystod y flwyddyn. Nadolig Llawen i bawb.