Ysgol Talgarreg yn cipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Parti Unsain, am yr ail flwyddyn yn olynol

Roedd hi’n gystadleuaeth ble yr ymddangosodd tri pharti ar ddeg ar y llwyfan.

gan Heledd Gwyndaf
Parti-Unsain-Ysgol-Talgarreg

Parti Unsain Ysgol Talgarreg

Mi gipiodd Parti Unsain Ysgol Talgarreg y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2024, am yr ail flwyddyn yn olynol.

Roedd hi’n gystadleuaeth ble yr ymddangosodd tri pharti ar ddeg ar lwyfan y Pafiliwn Gwyn ar ddydd Llun cyntaf yr Eisteddfod, yn canu ‘Now a Ned’ gan y diweddar Leah Owen.

Y llynedd mi ddaeth Ysgol Talgarreg i’r brig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin, yn yr un gystadleuaeth, sef y Parti Unsain Bl6. ac Iau i ysgolion â hyd at 50 o blant, gyda dim mwy na 12 mewn nifer.