Croesawu Pennaeth newydd i Ysgol BSC

Tymor newydd = Pennaeth newydd

gan Ruth Rees

Mae’n dymor newydd sbon ac mae ’na gynnwrf mwy nag arfer yn Ysgol Bro Siôn Cwilt wrth i’r staff a’r disgyblion groesawu Pennaeth newydd i’w harwain, sef Mrs Caryl Evans.

Arweiniwyd yr ysgol gan Ms Nia Thomas hyd at wyliau’r Pasg. Bu Ms Thomas yn rhan allweddol o’r ysgol ers ei hagoriad yn 2010, yn gyntaf fel athrawes ac yn fwy diweddar fel Pennaeth. Rhoddodd anghenion y disgybl yn gyntaf ar bob achlysur a diolch o galon iddi am ei hymroddiad a’i chefnogaeth gyson.

Dymunir yn dda iddi yn ei rôl newydd fel Pennaeth Ysgol Ardal Dyffryn Aeron.

Mrs Caryl Evans sydd nawr wrth y llyw. Bu hithau yn Bennaeth ar Ysgol Gynradd Cei Newydd am nifer o flynyddoedd hyd nes gwyliau’r Pasg. Mae hi’n ferch ac yn wraig fferm ac yn fam i dri o fechgyn llawn cymeriad.

Disgwylir yn eiddgar am ei harweiniad ac am y stamp bydd hi’n ei osod ar addysg yr ardal! Pob iechyd a llwyddiant iddi yn ei gwaith.

Cyngerdd Ysgol Gerdd Ceredigion

19:00, 15 Tachwedd (£10 yr oedolyn (Plant am ddim))

Noson Caws, Gwin ac Ocsiwn

19:30, 29 Tachwedd (£5 y tocyn, ar gael o'r Cylch Meithrin neu gallwch dalu wrth y drws)

Cylchlythyr