Dod ynghyd unwaith eto oedd nod oedfaon ar Sul y Blodau eleni yng nghapel Maen-y-Groes, yn dilyn cyfnod anodd y blynyddoedd diwethaf. Cafodd plant, ieuenctid, aelodau a ffrindiau Eglwysi Annibynnol Cylch y Cei a’r ardal gyfagos y cyfle i ganu, moli a chymdeithasu ar drothwy dathliadau’r Pasg.
Cynhaliwyd oedfa’r plant yn y prynhawn gyda darlleniadau a chanu caneuon gan ysgolion Sul Pencae a Phisgah. Rhoddwyd croeso cynnes hefyd i blant ysgol Sul Llwyncelyn i ymuno yn y canu. Dan arweiniad profiadol Rhiannon Lewis, Cwmann, cafwyd oedfa hwylus, llawn hwyl a sbri. Uchafbwynt yr oedfa i’r plant mae’n siŵr oedd gorymdeithio o amgylch y capel yn canu ‘Diolch i’r Iôr,’ gyda’r gynulleidfa yn cymeradwyo.
Diolch yn fawr i’r arweinydd, a holl athrawon a chynorthwywyr yr ysgolion Sul am baratoi’r plant ac am eu gwaith diflino. Diolch arbennig yn ogystal, i Catrin Evans am ei gwasanaeth cadarn ar yr organ a Dafydd Tudur am gyfeilio ar y gitâr.
Roedd y plant wedi mwynhau dangos eu doniau creadigol cyn yr oedfa hefyd, gan iddynt ddylunio carden ar gyfer y Pasg. Bu swydd bwysig arall gan yr arweinydd, sef i farnu enillwyr yn y tri chategori oedran. Llongyfarchiadau i’r rheini daeth i’r brig a derbyniodd pob un enillydd wobr am y gwaith caled. Felly, gwelwyd mwy nag un math o ddawn yn yr oedfa eleni!
Daniel Rees o Drefach Felindre oedd arweinydd gwadd oedfa’r nos, ac roedd hi’n bleser canu caneuon adnabyddus o’r Caneuon Ffydd, dan ei arweiniad medrus. Mae Daniel hefyd yn arweinydd ar gôr Clwb Rygbi Castell Newydd ac roedd bod yng nghwmni’r côr wedi ychwanegu at ganu byrlymus yn y Capel. Bu’r côr hefyd yn diddanu’r gynulleidfa gydag ambell gân. Roedd oedfa’r hwyr yn cynnig trefn wahanol i’r arfer ac yn sicr wedi bod yn llwyddiant.
Diolch arbennig i Carys Williams am gyfeilio mor raenus fel arfer, ac i gyfeilydd y côr sef Marian O’Toole, am ymuno i gyfeilio iddynt.
Hoffai’r Pwyllgor ddiolch i’n dau Lywydd gwadd am lywyddu’r ddwy oedfa mor bwrpasol – Marian Evans, Capel Nanternis a Ben Lake AS. Roedd anerchiad Ben Lake yn addas wrth iddo atgyfnerthu’r neges o bwysigrwydd cymuned, cymdeithasu a helpu’n gilydd.
Yng nghanol prysurdeb y ddwy oedfa, yr uchafbwynt i nifer oedd camu i’r festri gartrefol i fwynhau te a chlonc – y cyfle cynta’ yn dilyn cyfnod anodd o fethu cymdeithasu. Diolch o galon i aelodau Maen-y-Groes am baratoi’r Capel ac am gydlynu paratoadau’r bwyd gyda chefnogaeth capeli Nanternis a Phencae ar y dydd. Ymlaen felly i 2024!