Talgarreg yn ‘anadlu ein hanes ni ein hunain’

Pobl Talgarreg yn lansio llyfryn i ddosbarthu i bob cartref yn y pentref

gan Heledd Gwyndaf

Ma llyfryn yn cael ei lansio yn Nhalgarreg, sydd wedi cael ei greu gan gymdeithasau a sefydliadau’r pentref sy’n cyflwyno ein hunain ….i’n hunain, ac a fydd yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yn y pentref.

Mae cyfraniadau wedi dod o bob cwr o’r pentref i greu’r llyfryn gyda lleisiau pobl y pentref i’w glywed yn glir ynddo. Y bwriad ydy i sicrhau ein bod yn ‘anadlu ein hanes ni ein hunain’. Mae cyfraniadau byr yn y llyfryn gan Adran yr Urdd; Y Cylch Meithrin; Cymdeithas yr Henoed; Merched y Wawr; Cymdeithas Henebion Talgarreg; Y Neuadd Goffa; Y Mabolgampau a’r Carnifal; yr Ysgol Gynradd; Capel Pisgah; Capel y Fadfa; ac Eglwys Dewi Sant.

Dechreuodd taith y llyfryn hwn yn Hydref 2020 pan amlygwyd yn gliriach nag erioed, y bygythiad sydd o ran newidiadau i’r pentref nes ei fod y tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Yn sgil y pandemig mi gyflymwyd y newid hyd yn oed ymhellach, o ran demograffeg y pentref gyda mewnlifiad ar raddfa gyflymach, a chartrefi yn troi yn dai gwyliau. Mae’r bygythiad o hyd wrth gwrs i’n hiaith, i’n diwylliant ac i’n ffordd o fyw. O’u marw, byddai’r byd yn dlotach lle.

Gyda hynny teimlwyd bod angen i ni atgoffa ein hunain o gyfoeth yr hyn yw Talgarreg, a’r llafur cariad a’r dychymyg sydd wedi bod ar waith ar hyd y blynyddoedd. Un o’r heriau erbyn hyn yw cymhathiad mewnfudwyr. Dyma gasglu pobl ynghyd, i drafod beth y gellid ei wneud, dan faner Prosiect Fory oedd yn cael ei gyd-lynu gan Radio Beca.

Felly dyma fe, y llyfryn wedi dod i fwcwl ac yn cael ei lansio nos Sadwrn, yr 22ain o Ebrill 2023, yn nigwyddiad Cwilt360 yn Neuadd Talgarreg am 6yh, cyn dechrau ar y gwaith o’i ddosbarthu – croeso i bawb ymuno yn y gwaith hwnnw.

Gyda diolch i Gyngor Cymuned Llandysiliogogo am ei noddi.