Gyda’n gerddi’n dechrau adfywio ar ôl y gaeaf hir a’r gwanwyn gwlyb mae’n braf medru edrych ymlaen at haf llawn blodau. Yn Cross Inn a’r cylch mae yna gystadleuaeth i’n sbarduno i wneud y gorau o’r tymor tyfu.
Cynhaliwyd Cross Inn mewn Blodau am y tro cyntaf llynedd ac mae i’w gynnal eleni eto. Trefnir y gystadleuaeth gan Karen Cracknell gyda chefnogaeth Sefydliad y Merched Cross Inn, Cyngor Cymuned Llanllwchaearn a nifer o noddwyr o blith busnesau lleol. Y bwriad yw’n hannog ni gyd i gael Cross Inn a’r cylch i flodeuo – yn llythrennol.
Ceir nifer o ddosbarthiadau er mwyn cynnwys pawb (gwelwch y poster yn y siopau lleol). Mae’r dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth ddiwedd Mai a beirniadir y categorïau yng Ngorffennaf.
Symudodd Karen i Cross Inn dros 8 mlynedd yn ôl ac mae wedi cartrefi’n Cross Inn, gan ddysgu Cymraeg yn rhugl. Mae’n arddwr brwd ac yn awyddus i gyfrannu at fywyd ei hardal fabwysiedig. I wybod mwy neu i dderbyn ffurflen gais cysylltwch â Karen ar karen.cracknell@gmail.com neu ei ffonio ar 07884 380932.
Pob hwyl ar y garddio!