Brechdan Marmalêd unrhyw un?

Chwilio am Paddington

gan Gwyneth Davies
Paddington

Paddington

Mynyddoedd a llyn ym Mhatagonia

Mynyddoedd a llyn ym Mhatagonia

Adfeilion yn Maccu Picchu

Adfeilion yn Maccu Picchu

Ian Pearce dw i. Dw i’n byw yn Llanarth. Dw i’n mynd i ddosbarth Cymraeg yn Llanbed bob dydd Mercher. Dosbarth Canolradd yw e a Gwyneth Davies yw fy nhiwtor i.

Dw i’n mwynhau mynd ar wyliau dramor. Tair blynedd yn ôl, aethon ni i ‘Periw’ i chwilio am yr Arth.  Teithion ni o gwmpas Periw mewn trên, bws, cwch, awyren, ac ar droed. Teithion ni drwy Batagonia mewn bws a chwch, a hedfanon ni i Cusco yn ‘Periw’. Mae’r ddinas yn safle treftadaeth y byd, ac mae hi dros 11,000 metr uwch lefel y môr. Cerddon ni o gwmpas y ddinas i chwilio am yr Arth, ymweld ag amgueddfeydd a thafarnau, ond dim byd….

Nesa, aethon ni i Machu Picchu i ymweld ag adfeilion, ac roedden nhw’n wych. Edrychon ni i lawr ar y mynyddoedd, a gweld yr enfys hardd – ond dim sôn am yr arth! Yn olaf, teithion ni i Lima, prifddinas Periw. Roedd hi’n brysur yno, gyda llawer o bobl yn cerdded a gyrru, a hen adeiladau ym mhobman. Siaradon ni gyda llawer o bobl, a cherddon ni am oriau i chwilio am yr arth. Yna’n ddisymwth, ffeindion ni’r arth. Hwre!  Roedd e’n sefyll ar y sgwâr ger y môr. Roedd e’n gwenu ar bawb ac roedden ni’n hapus iawn. Dw i’n gallu dweud nawr – cwrddais i â Paddington yn nyfnderoedd Periw.