Y Brynie yn mynd at y mor

Hanes taith ddirgel MYW Y Bryniau

Nerys Jones
gan Nerys Jones
llun-trip

Y merched ar fin samplo’r jin!

Ar fore Sadwrn braf o wanwyn ar Fai 13, aeth criw o Ferched y Wawr Y Brynie ar eu taith ddirgel. Dechreuwyd ar eu taith tuag at dde’r Sir, gan aros gynta yn nistyllfa “In the Welsh Wind” yn Gogerddan. Cafwyd croeso twymgalon gan bawb a’n tywys o amgylch y lle gan Sara, a esboniodd popeth mewn ffordd hynod o ddiddorol. Wrth gwrs, rhaid oedd blasu cwpwl o jins, a ffein iawn oeddynt yn wir!

Ymlaen wedyn i Aberteifi a ffarwelio gyda dreifer y bws am nawr ger yr afon. Cafwyd tamed i fwyta ac yfed a oedd wedi eu baratoi gan drefnwyr y diwrnod, Eirwen a Nerys, cyn mynd ar daith ar hyd yr afon Teifi mewn cwch o’r enw Diana Ellen, yng nghwmni Dai Crabs. Roedd yr afon yn hollol lonydd, diolch i’r tywydd bendigedig!

I dorri ychydig ar ein syched wedyn, aethpwyd dros y bont i westy newydd yr Albion – adeilad sy wedi ei adnewyddu ac yn edrych yn drawiadol iawn.

I orffen y dydd, rhaid oedd cael pryd o fwyd blasus yn y Grosvenor ynghyd a cwis geirie hwylus cyn troi am adre. Diwrnod penigamp, gan ddangos nad oes rhaid mynd ymhell i gael diwrnod llawn sbort!

Eisteddfod Capel y Fadfa

13:30, 4 Mai (Oedolion £4 plant Dan 16 oed£1)

Eisteddfod Gadeiriol Llandudoch

11:30, 18 Mai (£2.00 i'r eisteddfod leol, £3.00 gweddill y dydd Plant oed cynradd am ddim)

Cylchlythyr