Pwt o’r pridd

Daw eto haul ar fryn?

gan Gwyneth Davies

Mae’r tywydd dros y misoedd diwethaf wedi cael effaith andwyol ar fugeiliaid a’u stoc yng Ngheredigion (a thu hwnt) dros y tymor wyna.

Dangosodd canlyniadau sganio bod y cnwd wyn yn is nag arfer – canlyniad i sychder haf 2022 a’r diffyg porfa yn ei sgil adeg hwrdda.  Cafodd y defaid gaeaf heriol a dweud y lleiaf gyda’r eira, rhew a glaw diderfyn yn ei gwneud yn anodd cael porfa o safon tra bod y defaid yn cario’u wyn. Daeth llawer o’r ffermwyr sy’n wyna dan do a’r stoc i mewn yn gynnar gan fod bwydo allan yn troi’r caeau’n fwdlyd. Roedd hyd yn oed y beic pedair olwyn yn ei chael yn anodd cario gwair a bwydydd drwy’r stecs.

Ni wellodd pethau rhyw lawer wrth i’r gaeaf droi’n wanwyn. Nid oedd posib mynd at y Rayburn ar brydiau oherwydd yr holl gotiau glaw’n sychu o’i gwmpas, heb sôn am y cŵn oedd yn ceisio ffeindio lle cysurus i dwymo ynghyd ag ambell oen yn dod at ei hunan mewn bocs yn y gwres.  Gwir iawn y ddihareb Mawrth a ladd, Ebrill a bling eleni gan fod y tywydd adeg wyna’n ddychrynllyd gyda hyd yn oed wyn cryf, sengl yn cael eu nychu gan y gwynt a glaw diddiwedd.  Dyma amser torcalonnus yn enwedig i’r rhai oedd yn wyna tu allan.

Hyd yn oed wrth wyna dan do roedd ffeindio lle i gadw defaid ag wyn i mewn am amser estynedig yn broblem; gwelwyd hen hyrdls yn cael eu hel o’r cloddiau er mwyn gwneud llociau dros dro ymhob twll a chornel.  Er gwaethaf bugeilio gofalus roedd colledion yn anochel; tybed a gaiff hyn ei adlewyrchu ym mhrisiau defaid, wyn a hyrddod yn 2023?

Ond wrth i Ebrill droi’n Fai mae’r tywydd wedi tecau ychydig ac mae’n ymddangos bod blodau’r weirglodd wedi goroesi’r tywydd garw’n well na phlanhigion yr ardd.  Gwelir toreth o Sanau’r Gwcw a Briallu yn y cloddiau ac mae’r Clychau Glas yn garped ar lawr. A dweud y gwir, mae’r dinad, dant y llew a drysni’n edrych yn llewyrchus iawn ar hyn o bryd.  O gwmpas y caeau mae’r twmpathau pridd niferus yn dyst nad yw’r gwahaddod wedi dioddef rhyw lawer yn sgil tywydd heriol y misoedd diwethaf chwaith!

Gobeithio bydd y misoedd nesaf yn fwy caredig i’r bugail a’i braidd.