Enillydd Tarian Her Megan Jones, Gwylfa (gynt), am yr amser cyflymaf yn Ras Siôn Cwilt oedd Gwydion Dafis, Blaenglowon Fach.
Mae’n rhaid bod rhywbeth arbennig yn y dŵr ym Mlaenglowon gan i’w fam, ei dad, a’i chwaer ennill eu categorïau hwythau hefyd – da iawn, wir!
Bu 18 oedolyn yn rhedeg ras dwy filltir o bellter o gae Ysgol Talgarreg, lawr heibio’r dafarn, trwy glôs Ffarm ac ar hyd lôn Rhandir, trwy’r caeau i glôs Clettwr ac i fyny’r lôn serth i fynd heibio Pensarn ac yna i lawr rhiw Esger i orffen yng nghae’r ysgol. Tipyn o her!
Dyma’r canlyniadau ac amserau:
Uwchradd (o dan 17 oed): Merched
- Cydradd 1af: Alys ac Elin (23:40)
Uwchradd (o dan 17 oed): Bechgyn
- 1af: Gwydion (13:45)
- 2il: Ifan (14:24)
- 3ydd: Llŷr (14:30)
Oedolion (17-40 oed): Menywod
- 1af: Becky (21:50)
Oedolion (17-40 oed): Dynion
- 1af: Steffan (19:33)
- 2il: Carwyn (20:29)
- 3ydd: Iestyn (21:15)
Veteran (dros 40 oed): Menywod
- 1af: Heledd (19:25)
- 2il: Julie (29:11)
Veteran (dros 40 oed): Dynion
- 1af: Hywel (17:02)
- 2il: Eric (17:29)
- 3ydd: Kelvin (20:18)
Roedd ras o tua milltir ar gyfer plant oed cynradd (bl. 2 i 6), yn ogystal. Bu 24 o blant yn rhedeg, a dyma’r canlyniadau:
Cynradd: Merched
- 1af: Marged (7:55)
- 2il: Martha (8:08)
- 3ydd: Manon a Hawys (8:43)
Cynradd: Bechgyn
- 1af: Steffan (7:12)
- 2il: Elis (7:45)
- 3ydd: Tomos (8:04)