Gŵyl Cen

Gŵyl i ddathlu gwerthoedd gwâr

gan Robyn Tomos
Cen Llwyd

Mae cynlluniau ar droed i gynnal tri digwyddiad arbennig yn Neuadd Talgarreg ym mis Mehefin. Bydd ‘Gŵyl Cen’ yn dathlu gwerthoedd a hiwmor yr ymgyrchydd iaith, cenedlgarwr, yr heddychwr a’r Undodwr Cen Llwyd.

Roedd hi’n rhyfeddol sut roedd Cen yn ymwneud a chyffwrdd â phobol o bob cefndir – mae ei ddylanwad yn ysbrydoliaeth sy’n parhau. A bydd yr ŵyl yn gyfle ardderchog i gydnabod hyn mewn ffordd hwyliog.

Yn rhoi cychwyn ar yr hwyl bydd Talwrn y Beirdd ar nos Wener 7 Mehefin gyda thri thîm lleol – Glannau Teifi, Crannog a’r Vale yn ymrysona am y gorau a’r Prifardd a’r Prif Lenor Mererid Hopwood yn Feuryn ac yn gosod tasgau yn adlewyrchu hiwmor a diddordebau Cen. Tybed ai dyma’r tro cyntaf i dalwrn teyrnged gael ei gynnal yng Ngheredigion.

Wedyn, ar y nos Sadwrn cynhelir Noson Lawen yn rhoi llwyfan i ddoniau lleol – yr union fath o achlysur yr arferai Cen ei hunan arwain gyda jôc a gwên bryfoclyd.

I gloi’r ŵyl, bydd Gwasanaeth Heddwch anenwadol gyda chyfraniad gan y newyddiadurwr Dylan Iorwerth ac eraill ar y bore Sul. Cyfle i ni ddod ynghyd ac i’n hannog i gadw’r fflam ynghyn.

Bydd Gŵyl Cen yn gyfle i ni ddod at ein gilydd i rannu storïau a chwmnïaeth,  dathlu cwlwm cymdeithas a dyrchafu’r gwerthoedd gwâr roedd Cen yn eu dyrchafu drwy ei fywyd a’i waith diflino.

Yn dilyn yr ŵyl eleni mae’n fwriad cynnal digwyddiad tebyg y flwyddyn nesaf.

Cynhelir Gŵyl Cen yn Neuadd Talgarreg, 7 – 9 Mehefin. Trefnir gan Ffrindiau Ffostrasol a’r Cylch a Phwyllgor Neuadd Talgarreg.

Dweud eich dweud