Tai lleol i bobl lleol!

Lansio YTC 4 Llan (CLT)

Gareth Ioan
gan Gareth Ioan
Lansiad-140524

Noson lansio YCT 4Llan CLT yng Nghaerwedros ar 14 Mai 2024.

‘Tai lleol i bobl leol’! Dyna’r gri a glywir men sawl ardal arfordirol yng Nghymru a gweddill Ynys Prydain. Wel, mae cymunedau bro Cwilt 360 wedi llwyddo i ymateb i’r her yn adeiladol.

Cyhoeddwyd sefydlu ‘Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol 4 Llan Cyfyngedig’ mewn cyfarfod cyhoeddus yng Nghaerwedros ar 14 Mai. Bwriad YTC 4Llan yw darparu llwyfan er mwyn medru ymateb yn gadarnhaol i’r argyfwng tai yn lleol. Yn ddaearyddol mae 4Llan yn canolbwyntio ar gymunedau Llanarth, Llanllwchaearn, Llandysiliogogo, Llangrannog a’r cyffiniau. Y bwriad yw bod yn gerbyd i wireddu unrhyw syniadau lleol ynghylch sicrhau tai fforddiadwy i bobl lleol.

“Dechreuwyd y sgwrs gan Eglwys Annibynnol Nanternis yn 2022”, meddai Gareth Ioan o Bentre’r Bryn, un o’r sylfaenwyr. “Lledodd y drafodaeth i aelodau Pwyllgor Neuadd Caerwedros a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Chwefror 2022. Sefydlwyd Gweithgor y 4 Llan o’r cyfarfod hwnnw er mwyn ymchwilio i’r sefyllfa a chanfod atebion posib”.

Ers hynny bu i Weithgor y 4 Llan ennill grant dan gynllun ‘Perthyn’ Llywodraeth Cymru. Defnyddiwyd y cyllid i gomisiynu ymchwil sylfaenol gan y cwmni ymgynghorol Burum i sefyllfa sosio-economaidd yr ardal. Bydd yr adroddiad manwl hwn yn cael ei ddefnyddio fel sail gadarn i geisiadau pellach am arian er mwyn datblygu’r  prosiect ymhellach. Un o’r rhai a gyfrannodd i’r cyfarfod oedd Jo Rees, hwylusydd tai gwledig Ceredigion. “Mae nifer o enghreifftiau o YTC ar draws wledydd Prydain”, dywedodd Jo. “Maen nhw’n gerbydau defnyddiol iawn i gymunedau fedru dal eu gafael ar asedau lleol er budd y gymuned leol”.

Ond nid tai yn unig fydd diddordeb 4Llan. Bydd 4Llan (sy’n ‘gymdeithas er budd y gymuned’) yn talu sylw i agweddau eraill o ddefnydd tir hefyd, e.e. cynhyrchu ynni adnewyddadwy, creu mannau chwarae a hamdden, datblygu gweithleoedd, sefydlu mentrau garddwriaethol, plannu coedwigoedd a pherllannau cymunedol a chynnal prosiectau amgylcheddol a garddwriaethol. Yn ganolog i’w weledigaeth mae hyfywedd y gymuned leol, gyda’r iaith Gymraeg a’i diwylliant yn ganolog i hynny.

Un arall o‘r gweithgor a gyfrannodd i’r cyfarfod oedd Wayne Lewis o Gaerwedros. “Bydd cyfle i drigolion lleol ac unrhyw un sy’n cefnogi amcanion 4Llan ymaelodi â’r gymdeithas gydweithredol yn y dyfodol agos”, meddai. “Bydd YTC 4Llan hefyd yn medru dosrannu cyfranddaliadau mewn unrhyw eiddo a ddaw i’w ran maes o law. Felly, yr unig beth sydd ei angen nawr yw eich syniadau a’ch brwdfrydedd chi”.

Ar ôl ambell ymarferiad anffurfiol i gasglu gwybodaeth a syniadau pellach clowyd y cyfarfod gan Cyng Matthew Vaux, deilydd y portffolio tai ar gabinet CS Ceredigion. Mynegodd gefnogaeth cadarn y Cyngor Sir i fentrau fel 4Llan. “Mae cryn her yn ein wynebu yn y maes tai y dyddiau hyn”, meddai Matthew. “Ond mae Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a mentrau cydweithredol eraill yn sicr yn rhan bwysig o’r ateb. Rwy’n dymuno’n dda i 4Llan yn y dyfodol ac yn edrych ymlaen at gydweithio ymhellach gyda’r gweithgor”.

Edrychwch allan am ragor o ddigwyddiadau a drefnir gan 4Llan dros y misoedd nesaf. Mae’r dyfodol yn ein  dwylo ni!