Llwyddiant Eisteddfod Llanarth

Hwyl steddfod leol

Nerys Jones
gan Nerys Jones
Alaw-Fflur-Jones-Felinfach-2

Alaw Fflur Jones, enillydd cadair yr ifanc

Gruffydd-Rhys-Davies-Non-1

Gruffudd Rhys a Non Thomas, enillwyr dau brif gwpan

Fflur-Connell-enillydd-Cwpan-1

Fflur McConnell, enillydd arall

Gwenno-Gwennan-unigolion-nifer-1

Gwenno a Gwennan, enillwyr yr adran gyfyngedig

Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanarth ar ddydd Gwener, Hydref 13eg a braf nodi iddi fod yn eisteddfod hwyliog a llwyddiannus. Llywydd yr eisteddfod eleni oedd Mr Geraint Hughes, Peniel, cyn brifathro ysgol Llanarth. Braf iawn oedd cael cwmni Geraint a’i wraig Sue yn yr eisteddfod prynhawn a gyda’r nos a diolch yn fawr iawn iddo am ei rodd hael.

Yn y prynhawn cynhaliwyd yr adran gyfyngedig gyda Mrs Elin Dafydd a Mrs Rhian Evans yn beirniadu, gyda Sian Abbott wedi bod yn beirniadu’r gwaith celf. Roedd hi’n bleser gweld disgyblion yr ysgol yn ymroi ar y llwyfan – profiad cyntaf, newydd i nifer fawr ohonynt. Cafwyd cystadlaethau llefaru a chanu, celf a llawysgrifen. Rhannwyd gwobr Sian a Nia Henson i’r unigolyn gyda’r nifer uchaf o farciau, rhwng Gwenno Jones a Gwennan Jones a Gwenno, gyda’i phortread o Mam, gipiodd gadair yr eisteddfod. Ar ddiwedd y cystadlu Tŷ Llywelyn ddaeth i’r brig ond roedd pawb ar eu hennill o fod wedi dysgu eu darnau, camu ar y llwyfan o flaen cynulleidfa a chymryd rhan. Diolch i athrawon a staff yr ysgol am eu holl waith yn paratoi’r disgyblion.

Arbrawf i Lanarth eleni oedd cynnal yr Eisteddfod agored ar y nos Wener yn hytrach nag ar y dydd Sadwrn ac roedd yn arbrawf a brofodd i fod yn lwyddiant. Denwyd niferoedd calonogol i gystadlu yn enwedig yn y cystadlaethau o dan 12 ac roedd y safon yn uchel drwyddi draw. Ein beirniaid oedd Berian Lewis – Cerdd, Lowri Steffan – Llefaru a Catrin Haf Jones – Llên.

Mewn seremoni hyfryd ac yn dilyn beirniadaeth adeiladol a chanmoliaethus gan Catrin Haf Jones, cadeiriwyd Alaw Fflur Jones am ei stori fer “Y Pit” – llongyfarchiadau mawr iddi ar ei champ.

Non Thomas o Dalgarreg dderbyniodd y cwpan her sy’n roddedig gan Mr a Mrs Geraint Hughes er cof am y diweddar Mr a Mrs Edwin Hughes, Aberystwyth i’r llefarydd mwyaf addawol dan 12 oed a braf iawn oedd hi bod Geraint gyda ni i gyflwyno’r cwpan i Non. Gwobrwywyd y cwpan her er cof am Mr a Mrs Wil Evans, Brynawen i’r unawdydd mwyaf addawol i Gruffydd Rhys Davies o Landyfriog a Gwenno Jones, Llanarth enillodd gwpan her Dafydd a John Lloyd Tegfan am ganu’r piano dan 12 oed.

Y dalentog Fflur McConnell, Aberaeron dderbyniodd gwpan her Isabel er cof am ei rhieni, am y perfformiad mwyaf cofiadwy. Llongyfarchiadau i bawb, a diolch i bawb gefnogodd yr eisteddfod eleni. Dyma ganlyniadau’r eisteddfod agored yn gyflawn:

Unawd dan 6 oed: 1af: Ilan Rhun, Caerfyrddin; 2ail Iolo James, Llandysul; Cydradd 3ydd: Jasmine Evans, Llanarth a Ffion Llewelyn, Llanwnnen.

Llefaru dan 6 oed: 1af: Ilan Rhun, Caerfyrddin; 2ail Jasmine Evans, Llanarth; 3ydd: Ffion Llewelyn, Llanwnnen.

Unawd 6-8 oed: 1af Neli Evans, Talgarreg; 2ail Non Thomas, Talgarreg; Cydradd 3ydd : Bethan Llewelyn, Llanwnnen a Lydia Rees, Cross Inn

Llefaru 6-8 oed: 1af: Non Thomas, Talgarreg; 2ail: Neli Evans , Talgarreg; Cydradd 3ydd: Heti Evans, Pont-rhyd-y-groes a Bethan Llewelyn, Llanwnnen.

Unawd 8-10 oed 1af Gruffydd Rhys Davies, Llandyfrïog; 2ail Greta Jones, Caerfyrddin; 3ydd: Alaw Freeman, Llanon

Llefaru 8-10 oed: 1af Gruffydd Rhys Davies, Llandyfrïog; 2ail Greta Jones, Caerfyrddin; 3ydd: Gwenno Jones, Llanarth

Canu’r Piano dan 12 oed: 1af: Gwenno Jones, Llanarth; 2ail: Greta Jones, Caerfyrddin; Cydradd 3ydd Angharad Thomas, Llangwyrfon a Gruffudd Rhys Davies, Llandyfrïog.

Canu Emyn dan 12 oed: 1af Gruffydd Rhys Davies Llandyfrïog; 2ail : Non Thomas, Talgarreg; 3ydd : Sara Lewis, Mydroilyn

Alaw Werin dan 12: 1af Ella Gwen, Blaenpennal; 2ail: Gruff Rhys Davies, Llandyfrïog 3ydd: Lydia Rees, Cross Inn.

Cerdd Dant dan 12: 1af: Greta Jones, Caerfyrddin; 2ail: Ella Gwen, Blaenpennal; Cydradd 3ydd: Sara Lewis , Mydroilyn a Gruff Rhys Davies, Llandyfrïog

Llafaru 10 – 12oed: 1af: Celyn Fflur Davies, Llandyfrïog, 2ail Isaac Rees, Cross Inn

Unawd 10-12 1af : Ella Gwen, Blaenpennal

Unawd 12-16oed: 1af Fflur McConnell, Aberaeron

Llefaru 12-16oed: 1af Fflur McConnell, Aberaeron

Canu Emyn 12-16oed: 1af Fflur McConnell, Aberaeron

Dweud Jôc: Cydradd 1af: Neli Evans, Gwenno Jones, Non Thomas, Fflur McConnell

Unawd Alaw Werin 12-16oed: 1af Fflur McConnell, Aberaeron

Darllen o’r Ysgrythur dan 16 oed: 1af: Fflur McConnell, Aberaeron; 2ail: Gwenno Jones, Llanarth; 3ydd: Isaac Rees, Cross Inn

Unrhyw Offeryn Cerdd o dan 18: 1af Fflur McConnell, Aberaeron

Cystadeuaeth S’gen ti Dalent: 1af Fflur McConnell, Aberaeron

Llenyddol:

Cadair Llenyddiaeth yr Ifanc: 1af ac 2ail : Alaw Fflur Jones, Felinfach; 3ydd: Lowri Jones, Llanarth

Cerdd Ddigri: 1af Peter Hughes Griffiths, Caerfyrddin; 2ail Megan Richards, Aberaeron; 3ydd J. Richard Williams, Llangefni

Limrig: 1af ac 2ail: Megan Richards, Aberaeron; 3ydd Susan Rees, Lledrod

Brawddeg: 1af Tesni Peers, Bangor; 2ail Megan Richards, Aberaeron; 3ydd Gaenor Mai Jones, Pentre’r Eglwys