Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Cafwyd ‘Bore Brecwast’ llwyddiannus dros ben ar Ddydd Gwener yn Rhagfyr. Fel rhan o Bennod Dysgu’r tymor yn Ysgol Bro Siôn Cwilt, buom yn dysgu o ble daw bwyd. O ganlyniad, rydym wedi codi ymwybyddiaeth o waith arbennig ein ffermwyr lleol. Roedd disgyblion Bro Siôn Cwilt yn awyddus i gefnogi ein Ffermwyr drwy gynnal ‘Y Brecwast Mawr’. Diolch i bawb a ddaeth i’n cefnogi ac am ddangos eich gwerthfawrogiad i’n ffermwyr! Diolch yn fawr i’r Cigydd Andrew Rees am roi’r holl gig ar gyfer y bore. Roedd yn hyfryd gweld y neuadd yn llawn gyda phawb yn mwynhau’r Brecwast Blasus. Diolch yn fawr iawn i staff y gegin a’r athrawon a fu’n brysur yn coginio’r holl fwyd. Da iawn i bawb a fu’n cymryd rhan a helpu yn ystod y bore.