Dwy delynores mewn Gŵyl Ryngwladol

Talent o Synod

Elliw Grug Davies
gan Elliw Grug Davies

Ddechrau mis Ebrill cynhaliwyd Gŵyl Delynau Ryngwladol Cymru yn Galeri, Caernarfon. Bu dwy o Synod sef Meinir Heulyn a Claire Lloyd yn cymryd rhan yn yr ŵyl honno.

Roedd Meinir Heulyn yn rhan o’r cyngerdd agoriadol ynghyd ag Elinor Bennet, Côr Godre’r Aran, a Chôr Telynau Gogledd Cymru ; yn ogystal cafwyd perfformiad cyntaf o waith comisiwn gan Math Roberts ac Ifor ap Glyn yn dwyn y teitl ‘Llechi’. Pan ofynnwyd i Meinir sut aeth pethau, ei hateb oedd ‘fe fues yn ymarfer am fisoedd!’ Hawdd deall hynny pan fo goreuon byd yn gwrando ar berfformiad.

Cafodd Claire sy’n ddeuddeg oed ac yn ddisgybl i Meinir y cyfle i gystadlu yn y Gystadleuaeth Iau i delynorion dan 13 oed, cyn mynd i gwrs Cerddorfa Plant Prydain o dan 13 oed yn Swydd Stafford. Yno cafodd ei hyfforddi gan Elen Hydref sydd bellach yn canu’r delyn i Gerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru.