Trip Golff i Langollen

Pencampwr Golff Taith y Siaced Werdd

Y Gambo
gan Y Gambo

Aeth Cymdeithas Golff y Siaced Werdd i chwarae tri chwrs yng Ngogledd Cymru yr wythnos hon sef Croesoswallt, Wrecsam a Llangollen.  Mae aelodau’r gymdeithas yn dod o bob cwr o Gymru ac maen nhw wedi bod yn cystadlu’n frwd i ennill y siaced werdd yma ers 20 mlynedd.  Eleni enillwyd y siaced gan Derwyn Davies, Pentre’r Bryn, Synod.  Cyflwynwyd y siaced iddo gan enillydd llynedd sef Bryn Fôn.