Anrhydeddu Gillian Blaencwrt

Llongyfarchiadau i Gillian Clarke ar ennill Gwobr Arbennig Prif Weinidog Cymru

gan Robyn Tomos
Gillian ClarkeLlun: Marian Delyth / Llenyddiaeth Cymru

Llun: Marian Delyth / Llenyddiaeth Cymru

Anrhydeddwyd y bardd, sy’n byw ger Talgarreg, yn nyfarniadau Gwobrau Dewi Sant am ei chyfraniad i gelfyddydau, llenyddiaeth a diwylliant Cymru.

Ers dros 30 mlynedd mae myfyrwyr Cymru a thu hwnt wedi bod yn astudio’i gwaith ac mae hi’n adrodd ei cherddi yn rheolaidd i gynulleidfaeodd ledled y byd.

Ynghyd ag ysgrifennu dramâu radio a theatr a chyfieithu barddoniaeth a rhyddiaith o’r Gymraeg, mae Gillian wedi ysgrifennu dros 100 o gerddi. Hi oedd Bardd Cenedlaethol Cymru o 2008 tan 2016.

“Mae iaith mor bwysig i ni yng Nghymru,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Mae bod yn wlad lle siaredir dwy iaith bob dydd yn golygu mai geiriau sy’n ein diffinio, fel unigolion ac fel gwlad. Dyna’r rheswm pam y bu gan feirdd le mor bwysig yn ein hanes.”

“Mae gwobr heddiw yn ffordd o ailddatgan hynny yn y Gymru gyfoes, trwy anrhydeddu un o feirdd mwyaf blaenllaw fy oes. Mae gwaith Gillian Clarke yn costreli harddwch, grym a chlymau ein bywyd.”

Mewn seremoni yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd yr wythnos ddiwethaf derbyniodd Gillian dlws cerameg o waith y crochenydd o Silian, Daniel Boyle.