Camu ar y Cae 3G am y tro cynta’!

Disgyblion yr ysgol yn cymryd rhan yn agoriad swyddogol y Cae 3G

gan Donna Wyn Thomas

Bu’n disgyblion yn ffodus iawn o gymryd rhan yn agoriad swyddogol y cae astro 3G ar ddydd Gwener yr 28ain o Ebrill yng nghanol y niwl! Diolch i’r Llysgenhadon Ifanc Efydd, Beca a Ianto am drefnu’r gweithgareddau. Diolch hefyd i’r Cynghorydd Maldwyn Lewis, Is-gadeirydd y Cyngor am agor y cae.